Diwrnod 51: Gweddïo dros gymunedau glan y môr (1924)

Awst 7fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 51 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Crea galon lân yno i, O Dduw; a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.’ (Salm 51:10). 

1924

Ar y 29ain o Fedi 1924 llwyddodd Malcolm Campbell i ennill record newydd o ran cyflymder ar dir. Y record oedd 146.16 m.y.a. Digwyddodd hyn ar draeth Pentywyn yn agos at Fae Caerfyrddin mewn Sunbeam 350HP V12. Ddim yn bell ar hyd yr arfordir mae’r Mwmbwls.   

Yn rhifyn Mawrth 1af War Cry y flwyddyn honno, roedd adroddiad gyda’r teitl: ‘Mae’r Mwmbwls eisiau Byddin yr Iachawdwriaeth’. Roedd yr adroddiad yn trafod digwyddiadau diweddar: 

‘Cafodd y “Gornel Uffern” adnabyddus yn Abertawe ei llenwi ar nos Sadwrn gan aelodau o’r corfflu (Adj a Mrs Phillips, Capten Evans) a denodd hwn dorf o ddynion a menywod meddw. Ar y bore Sul daeth criw o fenywod i’r gwasanaeth er mwyn gofyn am bresenoldeb Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Mwmbwls. Roedd ganddyn nhw restr o weithwyr a oedd yn barod i gefnogi’r gwaith yn ogystal ag adeilad yn barod ar gyfer cyfarfodydd.’ 

Byddai’n dda gwybod beth oedd y stori y tu ôl i’r angerdd hwn gan y menywod, nid penderfyniad byrfyfyr oedd o. Roedden nhw wedi paratoi’r ffordd ar gyfer gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Mwmbwls. Efallai roedd rhai ohonynt yn cofio ymweliad Byddin yr Iachawdwriaeth 40 o flynyddoedd ynghynt. Cafodd eu dymuniadau eu gwireddu. Cafodd agoriad Corfflu Mwmbwls ei gyhoeddi yn swyddogol y War Cry ar Fai 21ain 1927, yn ogystal â’r newyddion ynglŷn ag agoriad 21 corfflu arall ar draws y DU.   

Gweddi

  • Gweddïwch dros yr ardaloedd ble mae corffluoedd yn agos at, neu’n rhan o gymunedau glan y môr.  
  • Gweddïwch dros y rheini sydd ar wyliau ac yn chwilio am rywle i addoli tra eu bod ar wyliau.  

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags