Diwrnod 50: Gweddïo dros Abertawe (1923)
Awst 6ed
Diwrnod 50 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Galw arna i pan wyt mewn trafferthion, ac fe wna i dy achub di, a byddi’n fy anrhydeddu i’ (Salm 50:15).
1923
‘Yn 1878 … siaradodd William Booth am rai o’r pethau sydd wedi rhwystro gwaith y Genhadaeth Gristnogol yn y gorffennol – dywedodd eu bod nhw’n awyddus i drawsnewid bywydau, ond dylen nhw fod yn “fwy awyddus i greu seintiau – milwyr – dynion a menywod sy’n gallu sefyll ar wahân heb bwyso ar eraill – dynion a menywod sy’n gyhyrog a dewr”.’
(Melvyn Jones, That Contentious Spirituality)
Roedd y bobl a gafodd eu trawsnewid yn Abertawe yn sicr yn cwrdd â gofynion Booth. Roedd adroddiad y War Cry (Mai 5ed 1923) yn sôn am Gorfflu IV Abertawe a nododd: ‘Yng nghanol y bobl sydd wedi cael eu trawsnewid yn y cylch, roedd dyn yn penlinio ar gotiau ar y ffordd yn ceisio iachawdwriaeth...Mae’r rheini sydd wedi cael eu trawsnewid yn gofyn am waith ac yn archebu iwnifform.’
Gweddi
- Gweddïwch dros gorfflu Abertawe a’r gymuned.
- Dyma weddi a gafodd ei roi ym mocs gweddi Dyma Gariad pan oedd yn Abertawe yn 2023. ‘Dw i’n gweddïo bod fy nghorfflu yma yn Abertawe, yn parhau i fod yn berthnasol, wedi’i lenwi â Christ ac yn parhau i gysegru ein bywydau i wasanaethu Duw yn ein cymuned leol. Dw i’n gweddïo bendith Duw dros bawb sy’n mynychu’r rhaglen sydd gennym yma a’n hymdrechion yn y dyfodol.’ Ar ôl i chi ddweud y weddi hon, dywedwch ‘Amen!’ yn uchel.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.