Diwrnod 5: Bendith Aberdâr (1878)
22ain o Fehefin
Diwrnod 5 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Gwranda arna i ben bore, o Arglwydd; Dw i’n pleidio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl ateb’ (Salm 5:3).
1878
‘Disgrifiwyd penodiad sydyn Mrs. Shepherd yn bennaeth corfflu gan Railton fel “y digwyddiad mwyaf pwysig yn hanes Byddin yr Iachawdwriaeth cyn 1880”...
‘Yn 1878, roedd angen am swyddog Cymraeg ei iaith, ac felly danfonwyd Mrs Pamela Shepherd, gwraig cadw tŷ a chogydd Pencadlys Whitechapel gan Railton. Pythefnos yn ddiweddarach roedd Mrs. Shepherd, yn ogystal â’i phedair merch, Kate, Pam, Polly a Sally wedi dechrau cadw tŷ yn ABERDÂR, er iddynt gael trafferth yn perswadio’r perchennog i rentu’r tŷ i “fenywod a oedd yn pregethu”...
‘Cyn i’r teulu Shepherd fod yn Aberdâr am fis roedd y rhan fwyaf o feddwon y dref wedi cael tröedigaeth. Roedd eu hanesion yn Aberdâr wedi cyrraedd ochr draw'r mynydd yng Nghwm Rhondda a daeth dynion o’r cwm draw. Roedden nhw’n erfyn y byddai o leiaf un ohonynt yn cynnal gwasanaethau y tu hwnt i Aberdâr. Ac felly, aeth Kate...
(History of the Salvation Army, Cyfrol. 2)
Daeth stori Pamela, Kate, Pam, Polly, a Sally yn stori gyfarwydd, stori’r ‘Merched Haleliwia’ (Hallelujah Lasses), menywod – ac mewn nifer fawr o achosion, genethod – a oedd wedi derbyn y cyfle i weinidogaethu ac arwain mewn nifer o gymunedau caled wedi’u heffeithio’n wael gan dlodi.
Dyma Kate Watts a Harriet Parkins yn rhannu hanes ardal Merthyr Tudful:
‘Dyma ychydig o gyd-destun ynglŷn â’r bobl. Nid ydynt yn anwariaid o gwbl. Maent yn bobl well na phobl Whitechapel. Mae’n hyfryd i gael siarad â nhw. Rydym yn chwerthin bob tro’r awn allan. Mae’r menywod yn gwneud cyrtsi ac mae’r dynion bron â chwympo drosodd. Ac os ydyn ni’n sefyll yn sownd am eiliad, mae torf yn ffurfio o’n cwmpas ac maent yn aros i weld os bydden ni’n siarad.
‘Os ydym yn mynd i weld pobl yn eu tai, o fewn dim mae’r tai yn llawn. Mae dynion a menywod cryf yn ein gweld ac yn gofyn a oes modd iddynt wrando arnom yn gweddïo. Bron bob tro i ni godi oddi ar ein gliniau mae’r ystafell yn llawn pobl. Haleliwia! Mae Duw yn gweithio yn eu mysg!’
(The Christian Mission Magazine 1878)
Gweddi
- Gweddïwch heddiw dros gorfflu a chymuned Aberdâr.
- Gweddïwch dros yr addolwyr a phawb sy’n mynychu sesiynau galw heibio, banciau bwyd a Llan Llanast.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.