Diwrnod 49: Gweddïo dros Northlands, Caerdydd (1922)

Awst 5ed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 49 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau’r bedd; bydd e’n dal gafael ynof fi!’ (Salm 49:15). 

1922

Agorodd Northlands ym 1922 a dros y blynyddoedd mae wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd: cartref mamolaeth a phlant, cartref i’r henoed a bellach mae’n gartref i bobl ifanc sengl rhwng 16 a 21 mlwydd oed. 

Roedd rhifyn Gorffennaf o The Deliverer yn cynnwys adroddiad am Northlands gan y Comisiynydd Adelaide Cox: ‘Dw i newydd ddychwelyd o Gaerdydd ble rydym wedi cael cyfarfod hapus a chalonogol mewn pabell yng ngardd y cartref newydd i famau a babanod. Roedd y babanod yn edrych yn hyfryd ac roedd yr argraff gan y mamau yn sicr yn awgrymu eu bod nhw wedi cyrraedd “gwir hafan gorffwys”. Enw’r cartref hwn yw Northlands ac mae’n cyfrannu’n fawr at ein gwaith yng Nghaerdydd.’  

Yn rhifyn mis Medi o’r un cylchgrawn ysgrifennodd Comisiynydd Cox am y gwaith yn Abertawe: ‘Rydw i’n hapus iawn i gyhoeddi ein bod ni wedi dod o hyd i le addas ble bydd modd inni sefydlu cartref angenrheidiol yn y ddinas hon. Rwyf wedi bod yn meddwl am y cynllun arbennig hwn am beth amser, rwy’n obeithiol y bydd fy ngobeithion yn dod yn wirionedd yn y dyfodol agos.’  

Enw’r cartref cymdeithasol hwn yw Cae Bailey a roddodd y Comisiynydd Cox ddiweddariad yn rhifyn mis Hydref: ‘Mae’r enw Cymraeg, sy’n golygu “field enclosed”, yn perthyn ar y cartref sydd wedi ei leoli ym Mount Pleasant yn Abertawe...Rwy’n gobeithio y bydd modd anfon gwahoddiadau ar gyfer croeso i’r cartref cyn y Nadolig.’ 

Gweddi

  • Gweddïwch dros waith Northlands yng Nghaerdydd. 
  • Gweddïwch dros y bobl ifanc sy’n byw yno. 
  • Diolchwch i Dduw am y staff a’r caplan a gweddïwch y byddan nhw’n cael eu hannog yn y gwaith maen nhw’n eu gwneud gyda phobl ifanc. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags