Diwrnod 48: Gweddïo dros rieni sengl (1921)

Awst 4ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 48 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Dŷn i’n bellach yn dystion i’r math o beth y clywon ni amdano’ (Salm 48:8).

1921

‘Cafodd Florence Booth (née Soper) ei geni yn Y Blaenau. Hi oedd merch hynaf doctor o Loegr. Ysgrifennodd; “Rhoddodd fodolaeth ddi-ben-draw mynyddoedd Cymru a’r cyfle i gerdded, marchogaeth, sglefrio ynddynt, werthfawrogiad imi o bleserau syml yr awyr iach. Dw i am sicrhau’r pethau’r hyn i fy mhlant.’  (Jenty Fairbank, For Such a Time

Cwympodd Florence Soper a Bramwell Booth mewn cariad a phriodon nhw, er i’w thad gwrthwynebu. Mae modd deall pam oedd e’n gwrthwynebu. Nid oedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn cael ei ystyried yn barchus iawn yn y dyddiau cynnar hynny. Yn bendant, nid y fath o sefydliad y byddai doctor am i’w ferch briodi i mewn iddo.  

Daeth Florence Booth yn arweinydd Gwaith Cymdeithasol i Fenywod ym Myddin yr Iachawdwriaeth. Hi felly oedd yn gyfrifol am Gartref Stryd Hanbury yn Nwyrain Llundain yn ystod cyfnod Jack the Ripper. Roedd aelodau cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth, gan gynnwys Florence, angen dewrder i weithio yn yr ardaloedd hyn.   

Dyma ran o’r anerchiad a roddwyd ganddi i’r Cyngor Cymdeithasol Rhyngwladol ym 1921. Seiliodd ei sylwadau ar straeon go iawn gan wneud apêl dros driniaeth deg i famau nad oeddent yn briod.   

‘Mae yna un gangen o’n gwaith sy’n cael ei rwystro gan driniaeth a chyfreithiau annheg - ein gwaith gyda mamau nad yw’n briod a’u plant...Mae mwy o famau nad yw’n briod yn y byd Gorllewinol nag yw pobl yn sylweddoli. Mae deffroad mewn barn gan y cyhoedd ynglŷn â mamolaeth yn arwydd da, ond ni ddylai mamau nad yw’n briod cael eu heithrio o’r hyn sy’n diogelu mamolaeth.

Gweddi

  • Gweddïwch dros rieni sengl a’u plant.  
  • Ystyriwch yr hyn y gallwch chi eu gwneud i gefnogi ac annog unrhyw rieni sengl rydych chi’n eu hadnabod. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags