Diwrnod 47: Gwneud y pethau bychain yn ffyddlon (1920)

Awst 3ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 47 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!’ (Salm 47:1). 

1920

Yn y flwyddyn hon, dathlwyd pen-blwydd 1,400 genedigaeth nawddsant Cymru, Dewi Sant. Ei eiriau olaf oedd ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’ 

Roedd gweinidogaeth yr Uwch-gapten Ada Swain – sant bob dydd yn hytrach na nawddsant – yn adlewyrchu geiriau Dewi Sant. Cyflwynodd ei syniadau mewn erthygl yn The Deliverer (Chwefror 1920). 

‘Dywedodd yr Uwch-gapten Ada Swain wrth The Deliver am ei gwaith yng Nghaerdydd. Hi sy’n gofalu am y cartref diwydiannol mawr ar Heol Casnewydd. Mae’r Capten Nyrs Trotter yno hefyd yn gofalu am y cleifion mamolaeth brys. Yn Nheras Moira, mae yna Metropole enwog, lle mae cartref i’r henoed wedi cael ei agor yn ddiweddar. Maent hefyd wedi cael cartref 8 drws i lawr, dros y ddwy flynedd diwethaf. Enw’r cartref yw Hope Lodge ac mae 32 o blant yna.’   

Ym mis Awst y flwyddyn honno, adroddodd The Deliverer ar hanes Ada Swain eto mewn erthygl gyda’r teitl ‘Achub yr anghenus yng Nghaerdydd’.  

‘Mae’r diffyg tai yn achosi mwy o broblemau nag yw pobl yn sylweddoli, yn enwedig y rheini sydd ddim yn ymwybodol o’r ffeithiau o ddydd i ddydd. “Os byddai rhywun yn ddigon caredig i roi’r stryd gyfan i mi a’r arian i’w rhedeg, gallaf ei llenwi yn syth” dywedodd yr Uwch-gapten. Rydyn ni’n credu y byddai hi wrth ei bodd yn gwneud hynny.   

‘Daeth dyn a’i deulu i’r cartref...pob un yn edrych am le i fyw. Roedden nhw’n sicr y byddai’r Uwch-gapten yn gallu rhoi’r cyngor gorau iddynt.  

‘Gyda thipyn o drafferth daeth merch 19 mlwydd oed o’r carchar i’r cartref. Cafodd ei phlentyn ei eni yn adran mamolaeth y cartref. Mae’r plentyn bellach yn byw gyda theulu sydd ddim yn hir yn ôl wedi colli plentyn ei hunain. Mae’r fam ifanc wedi cael gwaith.   

‘Daeth gweddw a’i ferch i’r Metropole [Cartref o dan reolaeth Byddin yr Iachawdwriaeth]. Roedd y fenyw wedi ei chyflogi mewn cegin ond sylweddolodd rheolwr y cartref bod y plentyn yn gwisgo hen ddillad annigonol ac felly mae wrthi ar hyn o bryd yn gwneud cot iddi...Mae’r weddw bellach wedi priodi’n hapus.   

‘Ymysg y rheini sy’n byw yn y tŷ mae un ferch sydd bron yn gwbl ddall ac un ferch arall sy’n fyddar. Maen nhw’n helpu ei gilydd.  

‘Mae’r pensiynwyr yn yr ystafell dydd, sydd yn sicr yn gartref iddynt, wrthi’n brysur yn gwneud gwaith crosio a gwnïo.’ 

Gweddi

  • Myfyriwch ar eiriau Dewi Sant a’r hyn maen nhw’n eu meddwl i chi heddiw.  
  • Gweddïwch eich bod chi’n gwneud y pethau bychain yn ffyddlon ac yn llawen, gan roi gogoniant i Dduw.   

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags