Diwrnod 46: Gweddïo dros y rheini sy’n gwneud gwaith da yn ein cymunedau (1919)
Awst 2il
Diwrnod 46 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘“Stopiwch! Mae’n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i’n llawer uwch na’r cenhedloedd; dw i’n llawer uwch na’r ddaear gyfan.”’ (Salm 46:10).
1919
Dyma’r flwyddyn agorodd Hope Lodge cartref diwydiannol a mamolaeth yng Nghaerdydd.
Nododd adroddiad ar Y Blaenau yn War Cry: ‘Ar nos Sul, penliniodd ddau berson wrth orsedd trugaredd. Taflodd ddyn, mewn gwisg caci, arian i mewn i’r cylch awyr-agored gan ddweud, “Am beth wnaeth Byddin yr Iachawdwriaeth drosta i yn Ffrainc.”’
Tyfodd anffyddiaeth yn ystod y 19eg ganrif. Roedd y bobl gyfoethog wedi’i gwylltio gan amharodrwydd yr Eglwys i ateb cwestiynau rhesymol (e.e. cwestiynau ynglŷn ag esblygiad neu feirniadaeth o’r Beibl) ac roedd y bobl dlawd wedi’i gwylltio gan ddiffyg gweithredu’r Eglwys yn erbyn tlodi. Yn yr 20fed ganrif cyfrannodd dwy ryfel byd at gynnydd mewn anffyddiaeth a secwlariaeth. Roedd ffydd ‘bob dydd’ Byddin yr Iachawdwriaeth, fel oedd ar waith yn Hope Lodge, yn ei rhoi mewn lle da gyda’r cyhoedd, yn enwedig o ganlyniad i Wasanaethau’r Darian Goch gyda milwyr.
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n gwneud gwaith da o fewn eu cymunedau.
- Gwnewch restr enwau o’r bobl hyn. Gweddïwch y bydd Duw yn eu hannog a phan fyddwch chi’n eu gweld, diolchwch iddynt am yr hyn maen nhw’n eu gwneud.
1910–1919
Y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wrth wraidd straeon yr 1910au. Dyma ddigwyddiad a effeithiodd ar nifer o bethau gan gynnwys ymateb y gymdeithas i faterion ffydd. Newidiwyd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru oherwydd ail-drefnu i fod yn is-diriogaeth. Roedd y Cymro, David Lloyd George hefyd wedi cyfrannu at ysgwyd y gymdeithas yn y DU gyda diwygiadau cymdeithasol a arweiniodd at ddechreuad y Wladwriaeth Les. Yn nyddiau cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth, ceisiwyd mynd i’r afael â diffyg Gwladwriaeth Les cyn mynd ymlaen i gydnabod y bylchau oedd yn narpariaeth y Llywodraeth.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.