Diwrnod 45: Gweddïo dros bersonél milwrol a’u teuluoedd (1918)
Awst 1af
Diwrnod 45 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Bydda i’n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau, a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.’ (Salm 45:17)
1918
Yn 1918, cafodd Gymru ei sefydlu fel is-diriogaeth o dan y Comisiynydd Prydeinig. Roedd pedwar adran: Caerdydd, Casnewydd, Gogledd Cymru ac Abertawe. Roedd pencadlys Adran Gogledd Cymru yn Wrecsam.
Yn War Cry Ionawr 5ed, cafwyd adroddiad am ddigwyddiad ym mywyd y Brawd Griffiths (Rhos): ‘Pan ddaeth y rhyfelwr gartref am ddeg ddiwrnod o seibiant, fe fynegodd wrth nifer o’i ffrindiau mai dyma’r tro olaf y bydden nhw’n ei weld ar y ddaear ac ar ei ddydd Sul olaf yn y Corfflu, siaradodd am ei barodrwydd perffaith i fod gyda Duw, pe bai'r alwad yn dod.
‘Ar ei daith yn ôl i flaen y gad, cafodd sgwrs gyda dyn. Roedd yn rhaid iddo aros ychydig o amser yn yr orsaf ac felly gofynnodd y dyn wrtho os oedd am fynd yn ôl i’w gwesty gydag ef. Fe ymatebodd yn barchus: “Dim diolch syr. Dw i ddim yn gallu mynd i unman dw i’n teimlo nad yw Duw am i mi fynd yno; dw i am fod yn barod i gwrdd ag ef!”
Gweddi
- Gweddïwch dros bersonél milwrol a’u teuluoedd.
- Gweddïwch dros y rheini sydd â’r cyfrifoldeb o’u cynorthwyo a’u cefnogi.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.