Diwrnod 43: Rhoi diolch am arwyr anhysbys (1916)

Gorffennaf 30ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 43 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i’m harwain. Byddan nhw’n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti’n byw.’ (Salm 43:3).   

1916

Daeth David Lloyd George yn brif weinidog ym mis Rhagfyr 1916. Roedd y Cymro enwog hwn yn ddyn hynod a chymhleth. Yn wahanol i’r straeon am Lloyd George, roedd straeon yr arwyr bob dydd braidd byth yn cael eu cofnodi. Dyma stori am un o’r arwyr hyn o rifyn Ebrill 15fed 1916 o War Cry. Dyma stori'r Brawd Fred Coles (Caerdydd I). 

‘Bydd nifer o aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Leeds, Totton, Hove and Shoreham-on-Sea yn cofio’r Brawd Coles, a oedd yn swyddog nes i’w iechyd ddirywio.  

‘Yn Totton, gorsaf yn agos at Southampton, brwydrodd gyda’r dihirod oedd yn ceisio tynnu’r faner i lawr. Aeth y Brawd Coles ar fad hwylio Byddin yr Iachawdwriaeth, Vestal, er mwyn cynorthwyo wrth agor allbyst newydd. 

‘Mae marwolaeth ein cymrawd yn annisgwyl, ond roedd bob tro yn byw’n barod am ei wŷs nesaf.’ 

*Gweler Diwrnod 12 am wybodaeth ynglŷn â Llynges yr Iachawdwriaeth.

Gweddi

  • Diolchwch a gweddïwch dros yr arwyr bob dydd sydd yn eich bywydau chi.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags