Diwrnod 42: Diolch i Dduw am rôl menywod yn y gymdeithas (1915)
Gorffennaf 29ain
Diwrnod 42 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i’n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw.’ (Salm 42:1).
1915
Yn ôl gwefan Women, Wales and War:
‘Gwelwyd twf mewn cyflogi menywod ym meysydd diwydiant ym mis Mawrth 1915. Roedd nifer wedi colli’u swyddi cynhyrchu yn ystod 1914 o ganlyniad i leihad mawr yng nghyflogaeth ‘masnach moethusbethau”. O ganlyniad i gynllunio gwael, nid oedd digon o fagnelaeth. Cafodd y Weinyddiaeth dros Arfau Rhyfel ei sefydlu er mwyn cydlynu cynhyrchu’r arfau a oedd angen. Gan fod y mwyafrif o ddynion wedi ymuno â’r fyddin, roedd galw ar fenywod i gymryd lle'r dynion yn y ffatrïoedd gwladoledig.
‘Dywedodd arweinydd y swffragetiaid, Mrs Pankhurst, wrth Lloyd George [Y Gweinidog dros Arfau Rhyfel] bod nifer o fenywod yn cwyno am weithio i greu arfau rhyfel i gwmnïoedd preifat ond yn cael eu talu’n sylweddol llai na beth oedd y dynion wedi cael eu talu. Dywedodd Lloyd George wrthi y byddai pethau’n well yn y ffatrïoedd gwladoledig. Er i’r menywod dderbyn tâl weddol dda, gwnaethon nhw fyth gyrraedd yr un cyflog â dynion yn yr un swydd.’
Roedd hawliau menywod ym Myddin yr Iachawdwriaeth yn gadarn ers dyddiau’r Genhadaeth Gristnogol. ‘Mandadodd cyfansoddiad 1875 bod angen i’r Gynhadledd adolygu’r cyfansoddiad a llywodraeth y Genhadaeth Gristnogol, ond oedd rhai pynciau yn eithriedig gan gynnwys athrawiaeth, pwerau’r Cadfridog a hawliau menywod i ddal swydd o fewn y Genhadaeth.’
(John Larsson, 1929: A Crisis that Shaped the Salvation Army's Future)
Roedd dyddiau cynnar Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru yn dyst i arweinyddiaeth ddewr a medrus menywod. Roedden nhw’n cael cyfleoedd i weinidogaethu, cyfleoedd na fydden wedi’u cael mewn eglwysi eraill, er enghraifft, menywod y teulu Shepherd. (Gweler diwrnod 5).
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am ddylanwad menywod yn eich bywyd ac ym mywyd Byddin yr Iachawdwriaeth.
- Gweddïwch dros y menywod hynny sy’n dal i wynebu gwahaniaethu ar sail rhyw.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.