Diwrnod 41: Gweddïo dros weinidogaeth caplaniaid milwrol (1914)
Gorffennaf 28ain
Diwrnod 41 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Mae’r un sy’n garedig i’r tlawd wedi ei fendithio’n fawr.’ (Salm 41:1).
1914
Yn rhifyn War Cry Ebrill 11eg roedd adroddiad am ymgyrch yn Hippodrome Caerdydd a gafodd ei gynnal gan ‘y Comisiynydd Prydeinig [Edward Higgins] a Mrs [Catherine] Higgins.’
‘Rhoddodd Mrs Higgins, sy’n dod yn wreiddiol o Gymru, araith digon rhesymol a oedd yn trafod nad yw’n bosib tyfu’n ysbrydol os nad yw’r gwreiddiau’n gadarn o fewn profiad ysbrydol.
‘Roedd hefyd yn achlysur yr ymweliad blynyddol i’r mynwentydd, i feddau’r meirw gan deuluoedd gyda’u teyrngedau o flodau (sefydliad cenedlaethol) ...roedd bron i 1,000 o bobl yn bresennol.’
Mae gwefan yr International Heritage Centre yn nodi:
‘Yn ystod y Rhyfel Byd Gyntaf, darparodd Byddin yr Iachawdwriaeth ambiwlansys modur, cytiau lluniaeth yn y gwersylloedd milwrol a pharseli bwyd a dillad i’r milwyr. Roedd rhai swyddogion hefyd yn gwasanaethu fel caplaniaid.
‘Yn 1917, sefydlodd Evangeline Booth, Cadlywydd Cenedlaethol Byddin yr Iachawdwriaeth yn America, Fwrdd Rhyfel Cenedlaethol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion Byddinoedd Alldeithiol America. Cafodd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth o UDA eu hanfon i Ewrop, gan gynnwys rhai a elwir yn “Doughnut Girls” a oedd yn darparu bwyd (yn aml, toesenni) i filwyr ac yn gweithio mewn ysbytai ar faes y gad.
‘Cynhaliodd y Gynghrair Llyngesol a Milwrol wasanaeth a oedd yn cynorthwyo teuluoedd a ffrindiau i ddod o hyd i filwyr. Ar ôl y rhyfel, cynorthwyodd Byddin yr Iachawdwriaeth gydag ymweliadau i fynwentydd rhyfel.
Gweddi
- Gweddïwch dros weinidogaeth y caplaniaid milwrol.
- Gweddïwch yn benodol dros aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth sy’n gwasanaethu fel caplaniaid i gadlanciau’r fyddin, llynges a’r awyr.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.