Diwrnod 40: Gweddïwch dros gymunedau sydd wedi dioddef trychinebau pyllau glo (1913)

Gorffennaf 27ain

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 40 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Roedd gen i gân newydd i’w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio’r Arglwydd!’ (Salm 40:3).

1913

Collodd 439 o bobl eu bywydau yn Senghennydd ar Hydref 14eg 1913 yn nhrychineb pwll glo gwaethaf yn hanes y DU. Roedd adroddiad am y trychineb yn War Cry ar Hydref 25ain gyda’r pennawd ‘Byddin yr Iachawdwriaeth a’r rhai galarus Senghennydd.’ 

‘Mae’r llun hwn - a ellir ei ystyried yn symbol o agwedd Byddin yr Iachawdwriaeth tuag at fenywod gweddw ac amddifaid - yn dangos ein swyddog, Adjutant Lennard o’r Pentre, a gwraig un o’r dioddefwyr. Pan gafodd y llun ei dynnu roedd gŵr y fenyw a dau o’i meibion i lawr yn y pwll, yn ogystal â dyn a oedd yn byw gyda nhw. Mae’r meibion eisoes wedi dod i fyny o’r pwll, yn fyw, ond mae’i gŵr a’r dyn sy’n byw gyda nhw yn dal i fod wedi eu claddu. Mae’r swyddogion yn ymweld â’r fenyw’n aml.’

‘Allan o 900 0 ddynion, bu farw 435 ac mae llawer mwy ohonynt wedi’u claddu yn y pwll glo sydd ar dân. Mae bron â bod mil o weddwon ac amddifaid.’

‘Un o’r bobl gyntaf i fynd i lawr i’r pwll ar ôl y ffrwydrad oedd Uwch-ringyll Pobl Ifanc A Coram o Lyn Ebwy. Roedd yn aelod profiadol o’r Ambiwlans Sant Ioan a hefyd yn hyfforddwr lleol. Mae Rhingyll y Band Sands, y brodyr Bellis ac O Jones a oedd yn y pwll adeg y ffrwydrad ac yn aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth wedi bod i lawr gyda grwpiau achub sawl gwaith. 

‘Mae aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth wedi eu lleihau yn sylweddol o ganlyniad i’r trychineb. Mae o leiaf ddeg o'i haelodau wedi colli eu bywydau. Stori Emrys Williams yw un o’r straeon mwyaf trist. Mae ei fam yn nyrs, menyw gref ac, er gwaethaf ei phryderon ei hunain ynglŷn â ffawd ei mab, mae hi wedi bod yn rhoi cymorth i’r rheini sydd wedi cael eu hanafu ac yn wynebu golygfeydd erchyll yn y marwdy ac yn  cysuro gwragedd a mamau galarus.

‘Ni allai’r wraig oedd wedi gwneud cymaint i gysuro eraill ddod o hyd i unrhyw gysur iddi’i hun, a llawer o bennau’n cydymdeimlo wrth fynd i wylo i lawr y bryn [lle] cyfarfu ag arch – arch ei mab – yn dod i fyny ar ysgwyddau dau ddyn. Dyna pam y mae galar, echrydus, urddasol a distaw, yn codi dros Senghenydd.’

Gweddi

  • Mae nifer o gymunedau Cymru wedi cael eu heffeithio gan drychinebau pyllau glo. Gweddïwch dros y teuluoedd sydd wedi colli aelodau o ganlyniad i’r fath trychinebau. 
  • Gweddïwch fendith dros y rheini sydd wedi parhau i fyw eu bywydau er gwaethaf y golled.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags