Diwrnod 4: Gwaith timau estyn allan ar y strydoedd (1877)

21ain o Fehefin

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 4 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Deallwch fod yr Arglwydd yn cadw’r rhai ffyddlon iddo’i hun! Mae’r Arglwydd yn clywed pan dw i’n galw arno’ (Salm 4:3).

1877

‘Wrth arwain gwasanaeth awyr agored un nos Sul ar un o’r strydoedd gwaethaf yn y dref (Caerdydd) daeth grŵp o buteiniaid tlawd i wrando arnom a dechrau wylo dagrau hallt. Gwnaeth un ohonynt ein dilyn yn ôl i’r neuadd. Yna, cyffesodd ei phechodau a derbyn ei Gwaredwr i’w bywyd. Y noson ganlynol cynhalion ni wasanaeth yn arbennig ar eu cyfer. Llwyddon ni i gael tair ohonynt i mewn i dŷ dros dro yn LLANDAF, ond doedden ni ddim mor ffodus gyda’r gweddill. Y cyfan roedden ni’n gallu gwneud oedd gweddïo drostynt a’u hanfon allan i fyd oer.’   

(The Christian Mission Magazine)

Gweddi

  • Gweddïwch dros y timau sy’n gwneud gwaith estyn allan ar y strydoedd ar draws Cymru, beth bynnag eu henwad neu sefydliad.
  • Gweddïwch dros y rheini sy’n byw neu sy’n gweithio ar y strydoedd, y bydd rhywun yno i’w helpu pan fydd angen cymorth arnynt. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags