Diwrnod 39: Gweddïo dros Yr Wyddgrug (1912)
Gorffennaf 26ain
Diwrnod 39 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Clyw fy ngweddi, o Arglwydd. Gwrando arna i’n gweiddi am help’ (Salm 39:12).
1912
Mae gan gerddoriaeth cysylltiadau cryf â diwylliant Cymreig yn ogystal â chysylltiadau â Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae adroddiad War Cry Awst 17eg yn sôn am ‘ddathliadau brwdfrydig pen-blwydd Byddin yr Iachawdwriaeth yng ngerddi Sophia, Caerdydd.’
‘Mae’n amhosib nodi holl fanylion y diwrnod ond cerddoriaeth chwaraeodd y rôl fwyaf. O ddechrau’r dathliadau am ddeg o’r gloch y bore, roedd y tri safle seindorf yn brysur ac roedd gan bob cyfarfod neu ardystiad yn y brif babell band pres dynodedig. Roedd pob un yn amlygu'r cynnydd cyffredinol y mae cerddoriaeth yn ei wneud yn y dywysogaeth.'’
Cyfeiriwyd at ambell grŵp yn benodol yn yr erthygl: Band Mandolin Merched Casnewydd 2 a Band Pres Bechgyn, Band Consertina Merched Pentre, Terrible Ten Abertawe [cantorion] ac aelod o Fand o Fargoed ‘a ddechreuodd canu yn y Gymraeg’.
Yn ôl hanesydd o’r Wyddgrug, David Rowe, ‘Bellach yn gangen o fanc Lloyds yn yr Wyddgrug, roedd y neuadd unwaith yn gartref i farchnad dan do ar y llawr gwaelod ac roedd gwasanaethau a chyngherddau yn cael eu cynnal i fyny’r grisiau. Mae ganddo hanes cyfoethog sy’n gysylltiedig â nifer o enwogion. Yn 1912, pregethodd y Cadfridog William Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, o dan y balconi yno ac ar Ionawr 24ain 1963, cafodd yr Ystafelloedd Cynnull eu defnyddio ar gyfer cyngerdd The Beatles.’
Gweddi
- Gweddïwch dros dref yr Wyddgrug a’r cymunedau sy’n amgylchynu’r ardal.
- Gweddïwch dros weinidogaeth corfflu'r Wyddgrug.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.