Diwrnod 36: Gweddïo dros Drewiliam (1909)
Gorffennaf 23ain
Diwrnod 36 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘O Arglwydd, mae dy ofal cariadus yn uwch na’r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i’r cymylau’ (Salm 36:5).
1909
Dyma’r stori a ysgrifennodd y ‘Brawd Horton, Caerdydd IV’ i ddarllenwyr War Cry ar Chwefror 6ed: ‘Dywedodd un bachgen bach, a bigodd stwmp sigarét oddi ar y llawr, wrth fachgen arall ... “Gofynna i’r dyn yna os oes ganddo fatsien”; ond yr ymateb a gafodd oedd, “Bydd e ddim yn rhoi un i ni. Mae’n aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth a dydyn nhw ddim yn ysmygu.”’
Yn yr un rhifyn, roedd “stori ddiddorol mewn lluniau o Drewiliam, De Cymru’ a ddangosodd yr hen neuadd, y neuadd newydd a ‘chasgliad o bibellau, poteli wisgi a “eilunod” eraill a ildiwyd gan yr edifar’.
Ym Myddin yr Iachawdwriaeth, mae’r stori o sancteiddrwydd yn aml yn un realistig yn hytrach na straeon am brofiadau nefolaidd a chyfriniol. Cafodd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth eu parchu gan nad oedden nhw ysmygu, yfed alcohol, gamblo na rhegi. Roedd y rheini a oedd yn cael tröedigaeth yn llythrennol yn gadael eu hen o bibellau, poteli a phlu a.y.b.
Gweddi
- Gweddïwch dros gorfflu Trewiliam a’r gymuned ehangach.
- Diolchwch am y bobl sy’n ymgysylltu gyda’r corfflu a bod Duw yn gweithio yn eu bywydau.
Hanes y 1900au yw stori gyffrous y diwygiad yng Nghymru, gan gynnwys Byddin yr Iachawdwriaeth. Nid oedd y Cadfridog bellach yn cael ei ystyried yn 'arweinydd plentyn ofnadwy newydd y byd crefyddol'.* Yn hytrach, cafodd ei gyfarch a'i anrhydeddu gan bawb ble bynnag yr aeth. Y tu ôl i gyffro’r adfywiad a chanmoliaeth urddasol, cafodd Sarah Williams, 15 oed a'r Sarah Jane fach dlawd, gymorth tawel - ac eto fe gollodd dyn ifanc arall ei fywyd mewn damwain pwll.
1900–1909
Gwelwyd parhad y tyfiant o’r degawd cynt yn yr 1980au. Roedd mwy o drefn i’r mudiad. Un enghraifft o drefnu er mwy sicrhau tyfiant oedd sefydlu Corffluoedd Cylch - grŵp o gorffluoedd cyfagos a oedd yn gallu cefnogi ac annog ei gilydd. Serch hyn, elfen arall o waith estyn allan a barhaodd yn allweddol oedd y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan filwyr lleol. Roedd ymdrech i barchu’r diwylliant Cymreig, yn bennaf trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
* Eric Wickberg, In Darkest England and The Way Out, 6ed argraffiad, 1970
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.