Diwrnod 35: Gweddïo dros bobl ifanc sy’n wynebu brwydr yn eu bywydau (1908)
Gorffennaf 22ain
Diwrnod 35 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Wedyn bydda i’n dweud wrth bawb dy fod ti’n gwneud beth sy’n iawn. Bydda i’n canu mawl i ti drwy’r dydd.’ (Salm 35:28).
1908
Dyma storïau cryno am aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth a merch 15 mlwydd oed, Sarah Williams.
Pennawd War Cry ar Ionawr 11eg oedd ‘Lladdwyd yn y gwaith’. Noda’r erthygl: ‘Teimlwyd tristwch ofnadwy yn Pentre wedi marwolaeth dyn ifanc a gafodd ei ladd yn y pwll glo ar ddydd Sadwrn. Dydd Sul diwethaf roedd yn pregethu ac wedi trefnu i fynd a gwneud y penwythnos hwn hefyd.
‘Cafodd y cyfarfodydd eu harwain gan Adjutant Hall. Yn ystod y noson honno, aeth gwrthgiliwr, a oedd yn gymydog i’r dyn ifanc fu farw, ymlaen i edifarhau.’
Nododd cartref preswyl y wybodaeth ganlynol:
- Enw: Sarah Williams
- Oedran: 15
- O le? Caerffili
- Math o gais: Gan swyddog corfflu
- Wedi cael eich carcharu? Na
- Wedi bod yn gaeth i ddiod? Na
- Wedi bod mewn cartref arall? Na
- [Ymadawiad] I le? Wedi rhedeg i ffwrdd.
- Boddhad wrth ymadael: Heb ei boddhau. Wedi achosi trafferth yn ystod ei hamser yn y cartref.
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n rhoi cymorth un-wrth-un ac yn dysgu’r bobl ifanc hyn sy’n wynebu her yn y system addysg brif ffrwd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.