Diwrnod 34: Gweddïo dros Y Rhyl (1907)
Orffennaf 21ain
Diwrnod 34 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Dewch i ganmol yr Arglwydd gyda mi! Gadewch i ni eu foli gyda’n gilydd!’ (Salm 34:3).
1907
Roedd William Booth yn barod i drio unrhyw ddull a all ymestyn teyrnas yr Arglwydd. Bob blwyddyn rhwng 1904 a 1908 fe aeth ar deithiau o amgylch Prydain yn ei gar gwyn enwog. Roedd amserlen y teithiau yn llym a cheisiodd un dre yng Nghymru rhoi cadeiriau yn y ffordd er mwyn gorfodi’r Cadfridog i wneud stop nad oedd wedi’i gynllunio...gwibiodd yr osgordd heibio! Llwyddodd gynnig tebyg yn hwyrach yn ystod y daith. Yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd, byddai nifer yn cofio gweld y Cadfridog yn eu cymunedau.
Yn rhifyn War Cry Awst 10fed roedd adroddiad am yr ymgyrch modur a aeth i Fwcle yn 1907. Yn ystod y digwyddiad ‘roedd y Cadfridog wedi cynnal gwasanaeth mawr yn yr Adeilad Methodistaidd Cyntefig ... Roedd un o gadeiryddion y Cadfridog wedi gofyn am bleidlais o ddiolch. Cadeirydd: “Boneddigion a Boneddigesau, dyma ddyn rhyfeddol!” Y Cadfridog: “Clywch, clywch.” (Chwerthin mawr) Cadeirydd: “Mae ei egni’n rhyfeddol.” Y Cadfridog: “Mae’n rhaid bod gwaed Cymreig yn fy ngwythiennau.” (Chwerthin a chymeradwyaeth uchel.)
Soniodd yr adroddiad am rai o’r ymweliadau eraill: ‘Defnyddiwyd lori fel hysting ar ochr y ffordd yn Yr Wyddgrug... gyrrodd y car gwyn wedyn i ffwrdd oddi wrth y dorf o dros 2,000 mewn nifer ac yn mynd i fyny’r bryn tuag at Ddinbych. Cafodd cyfarfod gwych ei gynnal yn y capel Methodistaidd.
‘Os mai brwdfrydedd oedd yn Y Rhyl, brwdfrydedd y Cymry crefyddol ym Mae Colwyn ac ychydig o dân ysbrydol yn Llanddulas, beth allaf ddweud am yr olygfa ar waelod y Gogarth yn Llandudno?’
‘Roedd digwyddiad hudolus arall i’w hychwanegu i’r hyn a ddisgrifiwyd eisoes – dim llai na’r Cadfridog yn siarad yn adfeilion neuadd gwledda Edward I yng Nghastell Conwy.’ ‘
‘Llanfairfechan oedd y lleoliad nesaf. Yma cafwyd croeso, anerchiad a chyfarfod yn y Neuadd Gyhoeddus.’
‘Am 6.45yh dechreuwyd ar y daith i Fangor, dinas Cymraeg arall ar ben bryn...Iaith y bobl hyn oedd y Gymraeg, Capten Staff Russell a arweiniodd yr anerchiad agoriadol a hynny drwy’r iaith Gymraeg.’
‘Digwyddodd y digwyddiad nesaf a oedd o bwys o dan gysgod Castell Caernarfon...yn dilyn croeso brwdfrydig rhoddodd y Maer anerchiad, yn ogystal ag anerchiad gan y Temlwyr Da a Ffederasiwn yr Eglwysi Rhyddion.’
Roedd adroddiad yn War Cry ar Awst 10fed hefyd yn sôn am gynnydd y daith yn y De, ‘Ymysg mynyddoedd a chymoedd Cymru’.
‘Ardystiadau mawr yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Llanelli a Chaerdydd. “Beth mae hwn yn ei olygu?” gofynnodd y Cadfridog i sgwâr yng nghanol Casnewydd yn llawn pobl. Roedd y tawelwch yn amlwg, dywedodd: ‘”Dywedaf wrthoch. Mae’n golygu bod y bobl yn greiddiol crefyddol. Maent yn credu ynddi. Dyna hi. Ni all unrhyw beth ei gymryd i ffwrdd...dw i wedi dod i’r casgliad, er gwaethaf tueddiad materyddol o fewn Cristnogaeth fodern, mae’r bobl gyffredin yn edmygu’r dyn neu'r fenyw sy’n sefyll dros Dduw. Dyma ddiwygiad newydd.”
Ar ôl gwneud stop heb ei gynllunio wedi i’r bobl leol mynnu, nododd Booth: “Mae’ch brwdfrydedd a’ch wynebau llawen, eich cyfarchiadau a’ch blodau yn dangos eich bod chi â diddordeb ynof a’r gwaith rwyf yn ei wneud. Dw i’n ymddiheuro nad oes gen i amser i stopio yma ar fy nhaith a sôn wrthoch chi am fy ngwaith. Ond mae gen i ychydig eiliadau yn unig...” Nid oedd y Cadfridog yn un sentimental; ond pan lenwodd yr awyr ag alaw emyn Cymraeg wrth i’r car gwyn adael Llanon, roedd ambell ddeigryn yn ei lygaid.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y corfflu a'r gymuned yn Y Rhyl.
- Gweddïwch dros y prosiectau newydd y mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn eu llywio yn y dref.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.