Diwrnod 33: Gweddïo dros y canolfannau preswyl (1906)
Gorffennaf 20fed
Diwrnod 33 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i’r Arglwydd! Mae’n beth da i’r rhai sy’n byw’n gywir ei foli.’ (Salm 33:1).
1906
Unodd cartrefi’r Metropole a Stryd Charles yng Nghaerdydd i gynnal cyfarfod a gafodd ei fynychu gan 120 o bobl. Nododd The Deliverer:
‘Yn wir, roedd pob math o gyflyrau wedi cael eu trafod - merch 16 mlwydd oed gyda’i gwallt i lawr; mam-gu 82 mlwydd oed; y ferch oedd newydd adael y carchar a ddaeth i’r cartref am un o’r gloch y bore hwnnw; y ferch ddisglair mewn iwnifform gwasanaethu a ddechreuodd gweddïo dros y rheini nad oedd wedi’u hachub eto. Roedd un o breswylwyr parchus y Metropole yno, ac yn dangos yr un chwilfrydedd â phawb arall yno. Roedd pob rhan o’r cyfarfod yn apelio yn gyfartal at bawb gan gynnwys Sarah Jane, y fam-gu, a’r cyn-garcharwr oedd yn feddw ddoe.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n derbyn cefnogaeth mewn canolfannau preswyl ar draws Adran Cymru.
- Gweddïwch dros staff y canolfannau hyn ogystal â’r preswylwyr.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.