Diwrnod 32: Adnewyddu brwdfrydedd ac angerdd dros yr efengyl (1905)
Gorffennaf 19eg
Diwrnod 32 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi ei fendithio’n fawr, mae ei bechodau wedi eu symud o’r golwg am byth.’ (Salm 32:1).
1905
Canolbwynt y Mudiad Bywyd Uwch yn y DU oedd Confensiwn Keswick a ddechreuodd yn 1875. Roedd hwn yn rhan ehangach o’r mudiad sancteiddrwydd, mudiad roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhan fawr ohono. Yn ystod haf 1903, cynhaliwyd y ‘Keswick yng Nghymru’ cyntaf yn Llandrindod. Ysbrydolwyd nifer o Gristnogion Cymru gan y digwyddiad hwn.
Yn That Contentious Doctrine, nodai Melvyn Jones:
‘Roedd Confensiwn Keswick yn Llandrindod yn ddigwyddiad arwyddocaol wrth baratoi tuag at y Diwygiad Cymreig. Yn dilyn y confensiwn -
‘Daeth tri chant o Gymry i Keswick [Ardal y Llynnoedd] yn 1905...Roedd teimlad cryf o ddisgwyliad a gynyddodd yn ystod y cyfarfod cyntaf ar y bore Sadwrn pan ofynnodd RB Jones o’r Porth pam nad oedd y diwygiad wedi lledaenu y tu hwnt i Gymru: “Oni all y confensiwn hwn cynnau Lloegr ar dân?” (JC Pollock, The Keswick Story)
‘Roedd arweinwyr Keswick yn ysu am frwdfrydedd y Cymry hynny.’
Mae’n ymddangos fel eu bod hefyd yn ysu am y brwdfrydedd a oedd gan aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth: ‘Roedd difrifoldeb Keswick yn gwrthgyferbynnu gyda’r haleliwias: “Mae’r cyfarfodydd wedi bod yn dawel” oedd yr adroddiad ar un adeg. “Does dim banllefau swnllyd gan aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth.”’ (JC Pollock, The Keswick Story)
Mae’r Cymry yn aml yn cael eu hadnabod fel pobl frwdfrydig ac emosiynol sydd â thipyn o hwyl - ac felly yn agored i ddiwygiad. Yn debyg, roedd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn cael eu hadnabod am eu brwdfrydedd a’u hemosiwn - ar dân ac yn awyddus i hybu diwygiad.
Gweddi
- Gweddïwch y bydden ni’n gweld brwdfrydedd newydd dros yr efengyl yn Adran Cymru.
- Gofynnwch i Dduw pa ran yr hoffai i chi ei chwarae wrth hybu’r efengyl yn eich cymuned.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.