Diwrnod 31: Gweddïo dros Rosllannerchrugog (1904)
Gorffennaf 18fed
Diwrnod 31 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘Ro’n i mewn panig, ac yn meddwl, “Dwyt ti ddim yn gweld beth sy’n digwydd i mi!” Ond na, pan oeddwn i’n crefu am help roeddet ti wedi clywed.’ (Salm 31:22).
1904
‘Dros ganrif yn ôl cafwyd diwygiad crefyddol cryf yng Nghymru. Effeithiodd nid yn unig ar eglwysi a diwylliant y capel ond llwyddodd i gyrraedd penawdau newyddion ar draws y byd. Daeth Evan Roberts, un o ddiwygwyr mwyaf blaenllaw'r mudiad, yn enw adnabyddus iawn.’
(Kevin Adams and Emyr Jones, A Pictorial History of Revival)
Dechreuodd y diwygiad yn Rhos [1904] mewn ffordd eithaf annisgwyl yn y capel lle y cafodd Rhys Bevan Jones o dde Cymru gwahoddiad i arwain cenhadaeth...Aeth y diwygiad o nerth i nerth nes bod pob eglwys wedi’i heffeithio. Roedd y Methodistiaid, Annibynwyr, Aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth, Eglwys Lloegr a’r Bedyddwyr yn rhan o’r diwygiad mawr. “Diflannodd enwadaeth” ac roeddech yn gallu mynd i mewn i unrhyw eglwys yn y dref a dod o hyd i dorfeydd o bobl yn gweddïo; roedd harmoni mawr yn y dref.’
(Brian H Edwards, Revival!)
Y pennawd newyddion yn War Cry ar Ragfyr 10fed oedd ‘Deffroad Mawr yng Nghymru’. Dilynwyd y pennawd gan neges gan Bennaeth y Staff, ‘i’n Cymheiriaid Prydeinig’: ‘Deffroad Rhyfeddol...yn sgubo dros gyfran fawr o boblogaeth Cymru...mewn harmoni â dysgeidiaethau Byddin yr Iachawdwriaeth...[ac] yn ennyn cydymdeimlad ein pobl ymhob man. Yn ffyddlon, W. Bramwell Booth.’
A all fflam y diwygiad ledaenu a chynnau Lloegr ar dân? Pennawd adroddiad yn War Cry ar Ragfyr 21ain oedd ‘Ar Dân!’ a soniodd am ‘Ddeffroad Rhyfeddol yng Nghastell Norland, Gorllewin Llundain.’
Gweddi
- Gweddïwch dros y corfflu a'r gymuned yn Rhosllannerchrugog.
- Gweddïwch dros y grŵp cyfeillach sy’n cwrdd ar ddyddiau Llun. Gweddïwch y byddent yn tyfu yn ysbrydol ac mewn nifer.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.