Diwrnod 30: Deffroad Ysbrydol (1903)
17eg o Orffennaf
Diwrnod 30 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Canwch i’r Arglwydd, chi sy’n ei ddilyn yn ffyddlon, a’i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!’ (Salm 30:4).
1903
'Dechreuodd cyffroadau cyntaf y Diwygiad Cymreig yn 1904 yn ardal Cei Newydd, porthladd ar arfordir gorllewinol Cymru. Joseph Jenkins oedd y gweinidog yn y capel Methodistaidd Calfinaidd yng Nghei Newydd. Cafodd Jenkins ei eni yn y Rhondda yn 1859 a chafodd ei fagu ar aelwyd grefyddol. ‘Fel bachgen yn ei arddegau cafodd ei ysbrydoli gan gyffro efengylaidd Byddin yr Iachawdwriaeth. Ar ôl bod yn weinidog yng Nghaerffili a Lerpwl, aeth i Gei Newydd yn 1892.
‘Erbyn 1903, roedd Jenkins, a’i nai John Thickens, a oedd yn weinidog yn Aberaeron, wedi eu dadrithio gan sefyllfa’r eglwys a’u cenhadaeth eu hunain. Sylweddolwyd ar leihad ysbrydol yn yr eglwys gyda phobl yn edrych tuag at y ‘byd’ er mwyn cael ‘Iwtopia gymdeithasol’. Wrth ymdrechu i newid y lleihad, awgrymodd Jenkins a Thickens i’r gweinidogion lleol y dylid trefnu cyfres o gynadleddau ar y thema dyfnhau bywyd ysbrydol. Cytunodd y gweinidogion eraill a chafodd y gynhadledd gyntaf ei chynnal yng Nghei Newydd dros y Flwyddyn Newydd. Yn ôl Thickens, roedd dyhead cryf i gael adnabod cariad Duw yn ystod y gynhadledd.
‘Yn Chwefror, cafodd Jenkins ei ddilyn adref ar ôl un o wasanaethau’r Sul, gan ferch ifanc o’r enw Florrie Evans. Dywedodd wrtho ‘...Gwelais y byd yn y bregeth heno, a dw i o dan ei draed; ni allai fyw fel hyn.’ Dywedodd Jenkins wrthi i gydnabod Arglwyddiaeth Crist ar ei bywyd.
‘Yn ystod cyfarfod i bobl ifanc y Sul canlynol, safodd Florrie ar ei thraed gan weiddi ‘Dw i’n caru Iesu gyda’m holl galon’. Teimlodd dwy ferch ifanc arall, Maud Davies a May Phillips gariad Iesu'r noson honno hefyd. Dechreuodd y bobl ifanc fynd i ymweld ag eglwysi eraill gan rannu eu bendithion. Fe ellir dadlau mae hwn oedd ddechreuad yr Diwygiad Cymreig yn 1904.’
Gweddi
- Gweddïwch y byddwch chi a phobl eraill, fel Florrie Evans, yn sefyll ar eich traed ac yn dweud, ‘Rwy’n caru’r Arglwydd Iesu gyda’m holl galon.’
- Gwnewch hynny nawr yn eich amser gweddi – sefwch ar eich traed a dywedwch yn uchel, ‘Rwy’n dy garu di Arglwydd Iesu, gyda’m holl galon.’
Discover more
150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.