Diwrnod 3: Diolchgarwch am y sawl sy’n cefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth (1876)
20fed o Fehefin
Diwrnod 3 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘...Ond Arglwydd, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas. Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano! Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi’ (Salm 3:3).
1876
‘Bu Mrs a Miss Booth yn ymweld â ni yma, gyda chynulleidfaoedd mawr yn gwrando ar y Gwirionedd, gan roi clod i Dduw ac mae cael sawl un wedi ei ddwysbigo. Bydden ni’n trafod rhai o’r bobl hyn yn ein herthygl nesaf.
‘Bydd angen tractiau ar ein band wrth ymweld â’r strydoedd. Byddai nifer o bobl yn ddiolchgar amdanynt, yn ogystal â chyfraniadau i’r gronfa gyffredinol gan J. E. Billups, Ysw., Tredegar; G. Smart, Ysw…. neu gan John Allen… Caerdydd.’
(The Christian Mission Magazine)
Roedd Billups yn ffrind hael y Genhadaeth. Yn ddiweddarach, dywedodd y sylfaenydd amdano:
‘Cwrddon ni, fi a’m gwraig, ef am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Cwrddon ni nifer o arweinwyr eraill y gwaith Efengylaidd yno hefyd. Roeddent wedi bod yn gweithio er budd Byddin yr Iachawdwriaeth. Er enghraifft, y brodyr Cory, sydd wedi bod yn ein cefnogi, ac yn dal i wneud.’
(All the World Ionawr 1897)
‘Roedd Mr Billups yn Gontractwr. Hynny yw, fe oedd yn creu porthladdoedd a rheilffyrdd, adeiladu pontydd, codi gwaith haearn, a’r fath hynny o waith. Roedd ganddo dalent amlwg. Nid oedd byth yn gwneud i mi deimlo, fel oedd rhai cymwynaswyr cyfoethog eraill, fel bod yn rhaid i mi gytuno gyda’i farn a’i ddymuniadau am eich gweithrediadau.’
(All the World Ionawr 1897)
Roedd eu merch, Mary Coutts Billups wedi byw a gweithio gyda’r teulu Booth yn ystod dyddiau cynnar y Genhadaeth Gristnogol, cyn iddi symud i America. Roedd gan William a Catherine gymaint o gariad a pharch tuag at y teulu, penderfynon nhw enwi un o’u merched nhw ar ei hôl, Marian Billups Booth. Mewn modd tebyg, rhoddon nhw’r enw Evaline Cory Booth i un o’u merched eraill, er iddi gael ei hadnabod gan yr enw Evangeline Booth.
Gweddi
- Gweddïwch heddiw dros bawb sy’n cefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth yn Rhanbarth Cymru.
- Gweddïwch dros y rheini sy’n rhoi yn hael mewn ymateb i’n galwadau am gymorth ariannol.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.