Diwrnod 29: Bendith Caerdydd (1902)

16ef o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 29 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Mae’r Arglwydd yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae’r Arglwydd yn rhoi heddwch i’w bobl’ (Salm 29:11).

1902

Roedd Booth yn galw am lwyddiant ac agwedd bositif. Dyna yn sicr oedd ysbryd Byddin yr Iachawdwriaeth yn y dyddiau cynnar. Adleisir hyn yn erthyglau War Cry.

‘Dau Gant o Eneidiau yng Nghaerdydd

‘Ar i Fyny – Adeiladau Newydd – Mwy o Gerddoriaeth – Gwasanaethau Prynhawn Llwyddiannus 

‘“Felly rydych chi am wybod beth yr ydym am wneud yn Adran Caerdydd” meddai Capten Green... “Beth am hyn? Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos niferoedd yn cynyddu mewn un corfflu, 72 o filwyr a 24 copi o War Cry yn cael eu harchebu yn wythnosol... Roedd digwyddiad mawr hefyd wedi ei gynnal yn Neuadd Cory, Caerdydd ... Credwch chi fi, mae pethau yn edrych yn dda.”’

(War Cry Mai 24ain, 1902)

Mae’r detholiad calonogol hwn wedi ei gymryd gan erthygl sydd tipyn yn hirach, ac yn dangos pwysigrwydd dweud y stori mewn niferoedd i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn y dyddiau cynnar.

Gweddi

  • Gweddïwch heddiw am waith Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd – y corffluoedd, y gwaith cymdeithasol, y Lifehouses, y gwaith estyn allan a’r gwasanaethau cymorth.

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags