Diwrnod 28: Bendith y sawl sy’n dioddef o salwch (1901)
15fed o Orffennaf
Diwrnod 28 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Achub dy bobl! Bendithia dy bobl sbesial! Gofala amdanyn nhw fel bugail a’u cario yn dy freichiau bob amser!’ (Salm 28:9).
1901
‘Draw Dros yr Afon – Yn awyddus i Barhau yn y Frwydr - Salwch wedi ei Orfodi o’r Maes - Brwydr Ddewr hyd y Diwedd.
‘Fe gollwyd un o brif aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Wrecsam pan fu farw ein brawd Dick Jones. Bu farw’n orfoleddus a chafodd ei ddyrchafu i Ogoniant. Nid ydym yn gwybod pam y mae rhai yn ein gadael ni mor ifanc, ond rydym wedi dysgu mai “Ewyllys Duw a wneler”.
‘Roedd Jones wedi bod yn weithgar iawn yn ei wasanaeth i Dduw, ac ar un adeg, swyddog oedd ef. Yn anffodus, roedd ei iechyd yn wael ac felly argymhellwyd iddo y dylai ymddeol... Serch hyn, ni ymlaciodd, ac felly daeth yn aelod o gorfflu Wrecsam, nid yn unig fel milwr ond fel gweithiwr, yn cynrychioli Byddin yr Iachawdwriaeth ar lefel leol.
‘Mi oedd mwyaf hapus yn gweithio yn trio achub dynion a merched. O ganlyniad i’w waith caled cafodd ei gomisiynu fel y Swyddog Recriwtio. Er tristwch mawr i’w ffrindiau pan waethygodd ei iechyd eto. Ond ar ôl salwch hir a phoenus, bu farw yn orfoleddus...’
(War Cry Chwefror 9fed, 1901)
Roedd Jones yn un o nifer o swyddogion a bu farw o ganlyniad i bwysau’r swydd. Roedd yn rôl ymdrechgar iawn ac roedd Booth hefyd yn Gadfridog oedd yn gofyn llawer. Yn y dyddiau hynny doedd dim Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac felly roedd y ddarpariaeth feddygol yn brin iawn.
Mae’r erthygl hefyd yn adleisio agwedd Byddin yr Iachawdwriaeth at farwolaeth: bu farw’n orfoleddus a chafodd ei ddyrchafu i Ogoniant.
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n gorfod newid eu ffordd o fyw o ganlyniad i’w hiechyd, ond sy’n parhau i wasanaethu’r Arglwydd.
- Gweddïwch hefyd dros ffrindiau a theulu'r rheini sydd wedi colli pobl yn ddiweddar.prif gyhoeddwyr y Beibl yn Gymraeg.
Discover more
150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.