Diwrnod 27: Bendith Cymdeithas y Beibl yng Nghymru (1900)

14eg o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 27 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Gofynnais i’r Arglwydd am un peth – dyma beth dw i wir eisiau: Dw i eisiau aros yn nhŷ’r Arglwydd am weddill fy mywyd’ (Salm 27:4).

1900

Canrif yn gynharach, yn 1800, cerddodd merch yn ei harddegau, dros 25 o filltiroedd o bentref ger Tywyn i’r Bala yn droednoeth. Aeth ar y daith hon i brynu Beibl gan y Parchedig Thomas Charles. Arhosodd ei hymrwymiad i gael Beibl gyda Thomas Charles ac aeth yr holl ffordd o’r Bala i Lundain i rannu ei hanes mewn cyfarfod o Gymdeithas y Traethodau Crefyddol. O ganlyniad, hanes Mary Jones a’i Beibl ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor. 

Roedd yr awch a oedd gan Mary Jones am gael clywed gair Duw yn deimlad cyffredin yn ystod y 19eg Ganrif. Dros ganrif yn ddiweddarach, yn yr 21ain Ganrif, does braidd dim sôn nag amser am y Beibl yn ein cymdeithas. Serch hynny, mae gan bobl o hyd, hiraeth a dyhead am ddychweliad ysbrydol. Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn y dyddiau cynnar yn gallu newid ac addasu er mwyn cwrdd ag anghenion ysbrydol y bobl.

Gweddi

  • Gweddïwch dros waith Cymdeithas y Beibl yng Nghymru. Nhw yw prif gyhoeddwyr y Beibl yn Gymraeg.

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags