Diwrnod 25: Dros y sawl sy’n cael trafferthion ariannol (1898)
12fed o Orffennaf
Diwrnod 25 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Tyrd ata i, bydd yn garedig a help fi, dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef. Achub fi o’r helbul dw i ynddo; gollwng fi’n rhydd o’r argyfwng yma’ (Salm 25:16-17).
1898
Streiciau Glo; glowyr yn Ne Cymru ac yn Sir Fynwy.
Dechreuwyd y streic gan lowyr mewn ymgais i gael gwared ar y raddfa symudol a seiliwyd eu cyflog arni. Roedd y cyflog yn ddibynnol ar bris glo. Datblygodd y streic i fod yn gload allan difrifol a barodd chwe mis. Nid oedd y glowyr yn llwyddiannus ac fe gadwyd y raddfa symudol.
Dyma ddigwyddiad pwysig yn hanes Cymru o ganlyniad i undebaeth lafur a fabwysiadwyd ym meysydd glo'r de, rhywbeth a oedd wedi bod yn datblygu yn raddol hyd at y pwynt hwn. Ffederasiwn Glowyr De Cymru oedd yr undeb llafur fwyaf i ddeillio o’r streic hwn.
‘Trallod ofnadwy yn Ne Cymru
‘Streiciau a Newyn.
‘Ers y streiciau glo, cafwyd bedydd o dawelwch dros Gwm Rhondda, sydd fel arfer yn llawn bwrlwm diwydiant. Yr unig fywyd y mae modd eu gweld yw’r tipiau glo enfawr, neu bentyrrau sbwriel du gyda ffurfiau prysur yn chwilota am wastraff glo.’
(War Cry Mai 14eg, 1898)
Ceisiodd Byddin yr Iachawdwriaeth ei gorau i geisio lleihau’r caledi a’r trallod er gwaetha’r sefyllfa wleidyddol.
Gweddi
- Gweddïwch dros y rheini sy’n cael trafferthion ariannol.
- Gweddïwch dros y rhai sy’n gwirfoddoli yn y banciau bwyd ac yn dangos trugaredd i’r sawl sy’n ceisio cymorth.
Discover more
150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.