Diwrnod 24: Bendith Grwpiau Canu (1897)

11eg o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 24 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Yr Arglwydd piau’r ddaear a phopeth sydd ynddi; y byd, a phawb sy’n byw ynddo’ (Salm 24:1).

1897

Ar ddechrau cyfres 12 The Musical Salvationist (Gorffennaf 1897- Mehefin 1898), roedd adran o’r enw ‘Caneuon Cymru’. Yn yr adran roedd 11 o ganeuon. Roedd y geiriau wedi’u nodi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Cafodd nifer eu hysgrifennu gan aelodau o’r Corffluoedd Cymraeg. Mae’n ymddangos fel bod pedwar o ganeuon yn defnyddio alawol traddodiadol Cymreig. Disgrifiwyd ‘Dyrchafer enw Iesu cu’ fel ‘un o ffefrynnau mawr y cymoedd Cymraeg’.

Mae Cymru yn enwog am gerddoriaeth a chanu yn benodol. (Er mwyn tegwch, rhaid hefyd nodi bod dwy adran arall yn y gyfres: ‘Caneuon Iwerddon’ a ‘Chaneuon yr Alban’.)

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am orfoledd cerddoriaeth sy’n cael ei rannu gan grwpiau canu. Meddyliwch am yr adegau y cawsoch chi eich bendithio gan grwpiau canu.
  • Gweddïwch dros y grwpiau canu rydych chi’n ymwybodol ohonynt. Gweddïwch dros y Cristnogion sy’n halen ac yn oleuni mewn grwpiau canu cymunedol. 
  • Gweddïwch y bydden nhw’n ymwybodol o rym yr Ysbryd Glân wrth ymarfer a chanu eu mawl. 

Discover more