Diwrnod 22: Cymunedau Addoli (1895)

9fed o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 22 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ti oedd ein hynafiaid ni’n ei drystio. Roedden nhw’n dy drystio di a dyma ti’n eu hachub nhw. Dyma nhw’n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; Roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo’i siomi’ (Salm 22:4-5).

1895

‘Caerdydd II (Y Rhath)

‘Diwrnod da. Daeth nifer o aelodau’r band a milwyr. Roedd presenoldeb da yn y cyfarfodydd. Tair iachawdwriaeth, un sancteiddhad.’ 

(War Cry Ionawr 19eg, 1895)

Roedd Methodistiaeth Brydeinig a’r Diwygiad Americanaidd, dau fudiad pwysig i William Booth, yn dwli ar ystadegau. Nid yw rhifau yn gallu dweud y stori gyfan. Roedd Booth yn ddiwygiwr a oedd yn dwli gweld unigolion yn derbyn iachawdwriaeth. Serch hyn, fe welodd bwysigrwydd tyfu seintiau (sancteiddrwydd) i Fyddin yr Iachawdwriaeth. Dyma felly pam hyrwyddodd athrawiaeth ddadleuol sancteiddrwydd. Symbylodd ac arfogodd fyddin o seintiau a oedd yn barod i wireddu’r genhadaeth. 

Gweddi

  • Gweddïwch dros holl gymunedau addoli yn Rhanbarth Cymru ac y bydd pobl yn cael eu hannog a’u grymuso gan waith yr Ysbryd Glân yn eu cyfeillach a’u bywydau personol. 

Discover more