Diwrnod 21: Bendith Y Trallwng a Llanidloes (1894)

8fed o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 21 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Cod, Arglwydd! Dangos dy nerth! Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr’ (Salm 21:13).

1894

‘Yn 1886, gyda chymorth milwyr o Groesoswallt a’r Drenewydd aeth dau Gapten ac un Is-gapten i’r Trallwng gan ledaenu’r gair yn effeithiol. Roedd y Corfflu yn y Trallwng wedi wynebu sawl her, yn bennaf, dod o hyd i adeilad addas ar gyfer gwasanaethau addoli. Erbyn 1894 roedd sefyllfa'r barics wedi cael ei datrys. Ar ôl agor y barics newydd, datblygodd y Corfflu yn fawr. Ffurfiwyd band, ac aeth nifer o’r milwyr a oedd yn addoli yno i bentrefi cyfagos er mwyn efengylu.’ 

(RM Smith, The History of The Salvation Army in Wales up to the year 1900)

Roedd stori gychwynnol Byddin yr Iachawdwriaeth yn un o ryngweithio a chysylltu ag eraill. Estynodd y milwyr yng Nghorffluoedd weddol newydd Croesoswallt a’r Drenewydd allan a helpu dechrau’r gwaith yn y Trallwng. Ni wnaeth milwyr y Trallwng setlo yn eu barics newydd ond mynd allan at bentrefi cyfagos i rannu eu ffydd. 

Gweddi

  • Gweddïwch dros yr aelodau sy’n rhan o’r gyfeillach yn y Drenewydd wrth iddynt estyn allan i’r gymuned yn y Trallwng.

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags