Diwrnod 20: Gweinidogaeth Cân a Cherddoriaeth (1893)

7fed o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 20 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a’u meirch, ond dyn ni’r brolio’r Arglwydd ein Duw’ (Salm 20:7).

1893

Yn 1893, roedd hi hefyd yn dri chanmlwyddiant genedigaeth y bardd George Herbert. Cafodd ei eni yn Black Hall Trefaldwyn, a chafodd ei ordeinio fel gweinidog Anglicanaidd. ‘Mae’n cael ei gofio fel ffigwr allweddol; yn boblogaidd iawn, yn ddylanwadol iawn ac o bosib un o’r beirdd defosiynol Prydeinig mwyaf medrus a phwysig ei oes’ (Poetry Foundation).

Dyma un o emynau George Herbert sydd yn llyfr caneuon Byddin yr Iachawdwriaeth (2015). Mae’r ail bennill yn dweud:

O caned pawb o bedwar ban y byd,

‘Fy Nuw a’m Rhi!’

Rhy uchel nid yw’r nef

i eilio’i foliant ef:

rhy isel nid yw’r llawr

i chwyddo’r moliant mawr;

O caned pawb o bedwar ban y byd,

‘Fy Nuw a’m Rhi!’ 

(cyf. WD Williams)

Mae’r Iaith Gymraeg, chwedlau, a barddoniaeth i gyd yn bwysig yng Nghymru. Cafodd hwn ei gydnabod gan Fyddin yr Iachawdwriaeth trwy gyhoeddi fersiwn cyfrwng Cymraeg o y War Cry sef Y Gad Lef. Roedd galwad am feirdd i ddarparu mwy o emynau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd rhestr o alawon ei chynnwys. Roedd tudalen olaf Y Gad Lef yn cynnwys emynau Cymraeg a cherddoriaeth.

Gweddi

  • Gweddïwch dros weinidogaeth cân a cherddoriaeth. 
  • Ystyriwch gân y mae Duw wedi ei ddefnyddio i siarad gyda chi yn ddiweddar. Canwch hi nawr. 

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags