Diwrnod 2: Bendithio’r sawl sy’n gweithio ym maes diwydiant (1875)
19eg o Fehefin
Diwrnod 2 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘…mae pawb sy’n troi ato am loches wedi eu bendithio’n fawr!’ (Salm 2:12).
1875
‘Rwy’n siŵr y bydd darllenwyr y cylchgrawn hwn yn llawenhau wrth glywed am unigolion yn cael eu hachub mewn lleoliad anghysbell yng Ngogledd Cymru. Roedd ein ffrind annwyl, J. T. Campbell, Ysw., sydd â gwaith plwm yno, yn teimlo fel bod angen gwneud rhywbeth ar gyfer y dynion yn gweithio yno, y mwyafrif ohonynt yn dod o Gernyw. Mae ystafell bregethu wedi cael ei hadeiladu dros y gloddfa. Roeddwn wedi clywed am Ddiwygiadau Cernywaidd, ond roedd rhaid imi weld pa mor benderfynol y mae’r bobl Cernyweg hyn yn ceisio iachawdwriaeth pan fyddent yn teimlo Ysbryd Duw.’
(The Christian Mission Magazine)
Gweddi
- Gweddïwch heddiw dros rheini sy’n gweithio ym maes diwydiant. Gofynnwch i Dduw i’w helpu i fod fel Iesu i’w cydweithwyr, ffrindiau a’u teuluoedd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.