Diwrnod 18: Bendith Cei Connah (1891)

5ed o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 18 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Ydy mae’r Arglwydd yn fyw! Bendith ar y graig sy’n fy amddiffyn i! Boed i Dduw wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!’ (Salm 18:46).

1891

‘Tua 10 wythnos yn ôl dechreuodd Byddin yr Iachawdwriaeth yma (Cei Connah) mewn hen ysgubor wedi ei thrawsnewid i fod yn farics. Roedd cynulleidfa fawr er gwaetha’r glaw a’r eira. Daeth ambell aelod o Fagillt draw i helpu gyda’r agoriad.’

(War Cry Chwefror 27ain, 1892)

‘Difethwyd y diafol. Rydym yn ymladd ac yn ennill trwy waed a thân.’

(War Cry Tachwedd 19eg, 1892)

Roedd y Fyddin yn boblogaidd iawn yn ystod y cyfnod Fictoraidd. Mabwysiadodd rhai elfennau o’r Eglwys trosiadau milwrol a’r syniad o Gristnogaeth gyhyrog. Cymerodd Booth y cysyniad hwn i lefel uwch ar ôl newid mudiad wedi’i arwain gan bwyllgor, y Genhadaeth Gristnogol, yn Fyddin yr Iachawdwriaeth yn 1878, wedi’i harwain yn unbenaethol.  Mae’r adroddiadau uchod yn efelychu’r newid hwn gyda’r defnydd o dermau megis “barics, ymladd, buddugoliaeth” yn ogystal â chysylltu’r syniad o’r “gelyn” gyda’r Diafol. Cyflwynodd y Fyddin ei stori fel y frwydr yn erbyn pechodau a drygioni cymdeithasol.

Gweddi

  • Gweddïwch dros Gorfflu Cei Connah wrth iddynt archwilio ei bwrpas, genhadaeth a gwasanaeth i’w gymuned. Llawenhewch gyda nhw wrth i berthnasoedd newydd gael eu ffurfio.
  • Gweddïwch na fyddwn yn anghofio bod ein stori yn parhau i adlewyrchu ein brwydr yn erbyn pechod a drygioni cymdeithasol. 

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags