Diwrnod 17: Bendith Abersychan (1890)
4ydd o Orffennaf
Diwrnod 17 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Dw i’n galw arnat ti, achos byddi di’n ateb o Dduw. Gwranda arna i. Clyw beth dw i’n ddweud. Dangos mor ffyddlon wyt ti drwy wneud pethau rhyfeddol!’ (Salm 17:6-7).
1890
Ar Chwefror 6ed, 1890, bu farw 176 o bobl yn nhrychineb pwll Abersychan (Llannerch). Ar Fawrth 10fed, 1890, bu farw 87 o bobl yn nhrychineb pwll Morfa (Taibach).
‘Collwyd 87 o bobl eu bywydau yn Nhrychineb Pwll Glo, Taibach, Aberafan. Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yno i gysuro teuluoedd mewn galar. Dechreuwyd cronfa ganddynt hefyd.’
(War Cry Mawrth 22ain, 1890)
Mae’r trychinebau diwydiannol di-baid hyn, a arweiniodd at gymaint o farwolaethau, yn rhan o stori Cymru.
Gweddi
- Gweddïwch dros y gwaith estyn allan sy’n digwydd yn Abersychan sy’n cael ei gefnogi gan Gorfflu Pont-y-pŵl.
- Gweddïwch y bydd Duw yn dangos iddynt weledigaeth am y dyfodol fel eu bod yn gallu parhau i wasanaethu yng nghymuned Abersychan.
Discover more
150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.