Diwrnod 16: Swyddogion, gweithwyr a gwirfoddolwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru (1889)
3ydd o Orffennaf
Diwrnod 16 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr, dw i wrth fy modd gyda nhw’ (Salm 16:3).
1889
Mae hyfforddiant gweinidogion brodorol yn elfen bwysig arall o’r genhadaeth, yn bennaf oll oherwydd eu bod yn deall ac yn parchu’r iaith a’r diwylliant. Ar ôl iddo oresgyn ei ragfarnau ei hunan, sylweddolodd Booth y gall pobl dlawd fod yn weinidogion effeithiol, yn enwedig mewn ardaloedd tlawd. Yn debyg, gall swyddogion Cymreig fod yn effeithiol, yn enwedig yng Nghymru.
Am gyfnod roedd Cartref Hyfforddiant yng Nghaergybi ar gyfer swyddogion a oedd yn medru’r Gymraeg. Nododd y Caernarvon and Denbigh Herald ar Chwefror 8fed, 1889:
‘Caergybi. Yn ôl bob sôn, mae’r Cartref Hyfforddiant sydd newydd gael ei sefydlu yma, yn datblygu’n dda. Mae niferoedd y Cadlanciau Cymraeg yn cynyddu ac yn gwneud gwaith da.’
Mae’r papur yn nodi y cafodd wyth o’r swyddogion newydd eu comisiynu eu penodi i chwe chorfflu yng Ngogledd Cymru.
Gweddi
- Gweddïwch dros swyddogion, gweithwyr a gwirfoddolwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
- Gweddïwch y byddent yn cael eu hannog a bydd eu hangerdd dros yr Efengyl yn parhau ac y bydd croeso i aelodau newydd i gymdeithas Byddin yr Iachawdwriaeth.
1880–1889
Mae stori’r 1880au wedi ei ffurfio gan byllau glo, angerdd, posibiliadau a’r Pentecost. Mae nifer o’r farn bod y mudiad Methodistaidd wedi blodeuo yn yr ardaloedd pysgota a glofaol gan fod neges y diwygiad wedi effeithio ar y bobl oedd â’u bywydau yn anodd iawn ac yn aml yn rhy fyr. Blodeuodd Byddin yr Iachawdwriaeth yn yr ardaloedd hyn hefyd. Roedd y rhai a gafodd eu trawsnewid yn angerddol dros eu ffydd. Roeddent ar dân dros Dduw a lledaenodd y tân hwnnw ar draws Gymru gyfan.
Discover more
150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.
150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.