Diwrnod 150: Gweddïo dros Rhyl a Gwasanaethau Cymorth Digartrefedd Casnewydd a siopau a chanolfannau rhoddion SATCoL (2023)

Tachwedd 14eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 150 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Molwch e drwy chwythu’r corn hwrdd! Molwch e gyda’r nabl a’r delyn! Molwch e gyda drwm a dawns! Molwch e gyda llinynnau a ffliwt!' (Salm 150:3 a 4).

2023

Ysgrifenna Catherine Docherty (Rheolwr Rhanbarthol Cynorthwyol Gwasanaethau Digartref): 

Mae prosiect TEASP (Temporary Emergency Accommodation Supported Project) ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth cefnogaeth symudol i ddinasyddion sydd mewn gwasanaethau dros dro yn Sir Dinbych. Enillodd Byddin yr Iachawdwriaeth y cytundeb i gynnig y cymorth hwn ym mis Ebrill 2023. Mae TEASP yn cynnig dull holistaidd gyda’r nod o rymuso dinasyddion i wella’u lles tra’n byw mewn llety dros dro a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eu hannibyniaeth yn y dyfodol.

Mae sylw yn cael ei roi i’r meysydd canlynol: 

  • Cymuned - Cefnogaeth gyfunol i gysylltu gydag eraill yn y gymuned, gan gynnwys cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, gwirfoddoli, sgiliau cyflogadwyedd a dysgu.
  • Cartref – Cymorth gyda phob agwedd o sicrhau llety dros dro yn ogystal â pharatoi i ennill sgiliau ar gyfer y dyfodol. 
  • Corff – Cefnogaeth i gael mynediad i wasanaethau iechyd argyfwng a chymunedol. Lle’n mae’n bosib hefyd, cefnogaeth i leihau niwed wrth ymwneud ag alcohol a chyffuriau. 
  • Meddwl - Cefnogaeth i gael mynediad i wasanaethau iechyd argyfwng a chymunedol gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar les a meddylgarwch.
  • Ysbryd - Cefnogaeth i gael mynediad at gyswllt ysbrydol trwy ddatblygu cyfeillgarwch ag eraill, eglwysi cymunedol a grwpiau gyda mynediad at Gaplan a chefnogaeth corfflu.
  • Dyfodol - Cefnogaeth i ddatblygu hyder, awdurdod a hunangred ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prosiect dal yn un newydd ac ar ddechrau’r daith. Mae wedi cael ei gefnogi gan Gorfflu Rhyl. Rydym yn gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol. 

Ysgrifenna’r Trevor Caffull (SATCoL):

‘Yn 2020, wrth i’r cyfnod clo cyntaf ddod i ben, roedd angen i Gwmni Masnach Byddin yr Iachawdwriaeth (SATCoL) wneud penderfyniadau anodd am nifer o’i siopau elusen, gan gynnwys siop Wrecsam. Gyda thipyn o dristwch, caewyd drws y siop am y tro cyntaf, neu dyna beth oedden ni’n meddwl!

‘Yn fuan wedyn, cafodd rhydd-ddaliad y siop ei werthu a daeth perchennog newydd y siop at SATCoL i weld a fydden nhw â diddordeb i rentu’r siop gyda rhent llai. Ar ôl i SATCoL ystyried y peth, fe gytunwyd. Christina y rheolwr a yn arwain ei thîm gyda chenhadaeth wrth galon y peth ac maent yn ymateb i’w nod, ‘Daring to Care’, dros y gymuned, dros eu cwsmeriaid a dros ei gilydd. Mae timoedd hapus yn dueddol o fod yn dimoedd llwyddiannus, ac mae’r hyn a ddaeth yn sgil hyn yn anhygoel. Cynyddwyd gwerthiannau, daeth elw yn ôl a darparwyd cenhadaeth...ac yn 2023 derbyniodd Christina, ar ran y tîm yn y siop, wobr yn cydnabod Wrecsam fel siop SATCol gorau’r flwyddyn.’ 

Ym mis Orffennaf 2023, cafodd Gwasanaethau Digartrefedd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru, gyfle i gynnig prosiect estyn allan newydd yng Nghasnewydd, wedi ei gefnogi gan Gorfflu Casnewydd i ddechrau. Ers symud i’n cartref newydd yn Queens School House, mae’r prosiect wedi estyn allan i gefnogi pobl ddigartref neu bobl mewn llety dros dro. Mae sesiynau galw mewn yn cael eu cynnal 7 diwrnod yr wythnos ac mae amryw o asiantaethau yn cynnig eu cefnogaeth. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi ei hailenwi yn ‘Drws Agored’. Dyma adlewyrchiad gwych o’r croeso mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei chynnig i bawb, yn enwedig y rheini sydd angen cymorth y mwyaf. 

(Dirprwy Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaethau Digartrefedd)

‘Fy Stori’ gan Paul Sass:

‘Noson o ddiffyg cwsg’ ym mis Chwefror 2021 oedd wrth wraidd galwad newydd gan yr Arglwydd. Mae’n gliriach i mi nawr, mae cyfuniad o sawl achlysur a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd i’m harwain, siapio a’m paratoi ar gyfer cyfeiriad newydd yn fy mywyd. Yr achlysuron hynny oedd: llifogydd yn y strydoedd o amgylch fy nghorfflu cartref ym Mhentre (Chwefror 2020),  gweinidogaeth stepen drws a dros y ffôn yn y Rhondda - gyda’m wraig - yn ystod cyfnodau clo Covid (Mawrth - Orffennaf 2020), a gweithio gyda Phencadlys Adran Cymru er mwyn sicrhau dychweliad diogel i addoli wyneb yn wyneb (Awst - Medi 2020), yn ogystal â’m gwaith fel aelod o’r Uwch Dîm Arwain mewn ysgol uwchradd brysur yn Ne Cymru. Dyma oedd rhai o’r profiadau mwy arwyddocaol a oedd wrth wraidd y galwad newydd hwn gan Dduw a’m taith i hyfforddiant i fod yn Swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth.

Sgwrs ddidwyll gyda’r Uwchgapten Steve Wilson ar ôl fy ‘noson o ddiffyg cwsg’ a arweiniodd at fy ngwerthfawrogiad o’r hyn yr oedd Duw yn rhoi imi a bod Duw, o ddifri yn fy ngalw i symud o’m ngyrfa fel athro i yrfa yn y weinidogaeth. Dyma felly dechrau taith newydd o ffydd ac ufudd-dod, i’m hunan ac i’m teulu...taith sydd ar hyn o bryd wedi f’arwain i ganol fy hyfforddiant i fod yn swyddog - siwrne sydd wedi bod yn llawn bendithion a gras wrth i mi ymrwymo i ddilyn arweiniad yr Arglwydd. Trystia’r Arglwydd yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.’ (Diarhebion 3:5-6).

Yng Ngorffennaf 2024, cafodd Paul ei gomisiynu yng Nghymru, trwy gyfrwng y Gymraeg, fel swyddog sy’n medru’r Gymraeg. Digwyddodd rywbeth tebyg dros 130 o flynyddoedd cynt, gyda swyddogion Cymraeg eu hiaith, yn cael eu comisiynu yng Nghymru ac yn cael eu penodi i Gymru!

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am ddatblygiad gwasanaethau sy’n cefnogi pobl fregus yn Wrecsam a Chasnewydd. Gweddïwch eiriau o ddiolch dros y staff sy’n cefnogi’r bobl hyn.
  • Gweddïwch eiriau o foliant dros y ffyrdd mae SATCoL yn cefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth trwy siopau elusen a chanolfannau rhoddion. 
  • Diolchwch i Dduw, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, fod swyddogion Cymraeg yn cael eu comisiynu yng Nghymru er mwyn gwasanaethu yma yng Nghymru.

2024

Nid yw’r stori wedi cael ei hysgrifennu eto, pwy fydd yn ei hysgrifennu?

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags