Diwrnod 15: Bendith Aberhonddu lle mae cylchgrawn War Cry yn cael ei werthu (1888)

2il o Orffennaf

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 15 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • ‘Arglwydd, pwy sy’n cael aros yn dy babell di? Pwy sy’n cael byw ar dy fynydd cysegredig? Y sawl sy’n byw bywyd di-fai, yn gwneud beth sy’n iawn, ac yn dweud y gwir bob amser’ (Salm 15:1-2).

1888

Cafodd gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberhonddu ei ddisgrifio yn War Cry ar Hydref 27ain1888 fel ‘Brwydr Fendigedig Brigâd Aberhonddu’. Roedd y Caer Pren, fel y gelwir y barics, yn agored bob nos. Disgrifiwyd rhai o’r bobl a gafodd eu hachub a’u cofrestru fel a ganlyn:

They are the hallelujah jockey,

With his happy smiling face,

And stalwart brother Morgan

(Don’t they look a jolly brace)

And a band of daring Welsh boys,

Who’ve begun the heavenly race,

All in the Brecon Brigade.

They’ve a scribe, whose been converted,

And the man that clears the line,

A painter, and a baker,

They each talk like a divine;

They’ve a group of smiling women,

Just see how their faces shine;

All in the Brecon Brigade.

(RM Smith, The History of The Salvation Army in Wales up to the year 1900)

Tri chant o flynyddoedd yn flaenorol, yn 1588, cyhoeddodd William Morgan, cyn esgob Llandaf a Llanelwy, y fersiwn cyntaf o’r Beibl cyfan drwy’r Gymraeg. ‘Ni ellir gwadu effaith a dylanwad cyfieithiad Morgan ar lenyddiaeth Gymraeg’ (Encyclopaedia Britannica).

‘Y Sulgwyn Yn Ffestiniog

‘Am olygfeydd gwych dydd Sul diwethaf. 

‘Bydd nos Sul Mawrth 13eg yn noson fythgofiadwy yn hanes yr ail Gorfflu Cymraeg Byddin yr Iachawdwriaeth ac yn noson fythgofiadwy i bawb oedd yno.

‘Mae miloedd o feddwon wedi cael eu hachub ac mae’r cymoedd yn canu am eu hiachawdwriaeth. Ond mae’r her yn parhau o orfod defnyddio iaith sy’n estron i nifer o helaeth...ac at bwrpas crefydd, mae’n well gan bobl clywed eu hiaith hyfryd farddonol nhw.’

(War Cry Mawrth 26ain, 1887)

Gweddi

  • Gweddïwch dros y gwaith diwyd o werthu War Cry yn Aberhonddu. 
  • Gweddïwch dros y rheini sy’n darllen War Cry ac y byddent yn cael eu herio a’u hannog yn eu ffydd. 

Discover more

150 diwrnod o weddi i nodi 150 mlynedd o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru.

150 days of prayer to mark 150 years of The Salvation Army in Wales.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Related tags