Diwrnod 149: Gweddïo am fendith barhaol pum Chynefin Adran Cymru (2022)

Tachwedd 13eg

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 149 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Boed i’r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu; a gweiddi’n llawen wrth orffwys ar eu clustogau' (Salm 149:5).

2022

Wrth adeiladu ar y gwaith paratoadol a gwnaed gan Adran De a Chanolbarth Cymru cyn Covid, cyflwynwyd grwpiau clwstwr o gorffluoedd cyfagos o amgylch yr Adran. Wrth ffurfio’r adran newydd, gwahoddwyd y corffluoedd i ffurfio Cymunedau Cynefin, yn ymrwymo i ‘fyw bywyd gyda’i gilydd, caru Duw gyda’i gilydd ac arwain ar gynllun Duw gyda’i gilydd’.

Daw defnydd yr enw ‘cynefin’ o ystyr Cymraeg: 

‘Caiff Cynefin ei ddiffinio gan Gwricwlwm i Gymru fel “y lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn, lle mae’r bobl a'r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a’r golygfeydd a’r synau yn gysurus i’w hadnabod”.’

Er bod cyfieithu cynefin i ‘habitat’ yn Saesneg English, nid yw ‘cynefin’ yn sôn am yr ardal le y rydym yn byw yn unig ond caiff hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r perthynas rhwng pobl a’r byd naturiol a sut mae’n berthynas i’n hamgylchfyd yn gallu siapio ein hunaniaeth a’n lles.

‘Defnyddir Cynefin hefyd yn yr ymdeimlad ehangach o gymuned, diwylliant, treftadaeth a hunaniaeth. Mae’n gysyniad cyfannol sy’n cwmpasu’r dimensiynau ffisegol, cymdeithasol, diwylliannol, ysbrydol ac economaidd lle, a sut mae’r dimensiynau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd. Mae'n cael ei weld fel y gofod hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sy'n cael ei siapio a'i ddiffinio gan y gymuned sy'n byw ynddo.’ (Jonah Mayo: www.twinkl.co.uk)

Roedd y gwahoddiad i ffurfio pum Chynefin, yn dechrau gyda swyddogion ac yna yn ymestyn i holl aelodau’r corfflu yn gam ffydd a esboniwyd gan y tîm adrannol:

‘Beth os yw’r amser yn iawn, dan arweiniad Duw, i alluogi i’w ysbryd i greu cymunedau Cynefin ble mae disgyblion sy’n byw gyda’i gilydd a Duw yn bodoli ar draws Cymru? Beth os yw’r amser yn iawn i alluogi i lwybrau hynafol grwpiau o ddisgyblion i gwrdd â’i gilydd a rhannu pryd, rhannu’r ysgrythur a’u straeon ffydd ac i chwilio am Dduw gyda’i gilydd trwy weddi er mwyn penderfynu’r ffordd orau o rannu’r newyddion da am Iesu Grist? Beth os yw’r amser yn iawn i archwilio’r holl roddion y mae Duw wedi’i roi i’w ddisgyblion gan ddod o hyd i’r ffyrdd i arddangos y rhoddion hyn a chadw cymunedau gyda rhaglenni addoli?’

(Noreen Batt: Cymunedau Cynefin: Rhagfyr 2021)

Mae’r antur yn parhau... 

Gweddi

  • Gweddïwch dros Adran Cymru: diogelwch y bobl, grym yr Ysbryd Glan ym mywydau pob aelod a phosibilrwydd y pethau newydd sydd i ddod. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags