Diwrnod 148: Gweddïo dros Fresh Expression Castell Nedd a Core Recovery (2021)

Tachwedd 12fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 148 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Bechgyn a merched hen ac ifanc gyda’i gilydd. Boed iddyn nhw foli enw’r Arglwydd!' (Salm 148:12 a 13).

2021

Ysgrifenna'r Uwchgapten Mary Wolfe: 

‘Teimlodd milwr yng Nghorfflu Sgiwen yn gryf y dylai gwaith estyn allan fod yn digwydd i gynorthwyo’r rheini yn wynebu digartrefedd yng Nghastell Nedd. Cynhaliwyd holiadur a’r canlyniad oedd bwyd a dillad yn cael eu darparu unwaith yr wythnos. Deunaw mis yn ddiweddarach, clywodd arweinydd y genhadaeth llais clir yn dweud, ‘Beth yn y byd wyt ti’n ei wneud?’ Edrychodd o’r bobl a oedd yn sefyll mewn rhes am fwyd i siop o’r enw ‘Happy Homes.’ Teimlodd, yn hytrach na galluogi i bobl parhau yn eu sefyllfaoedd gwael, roedd angen cynnig llwybr i newid bywyd yn llwyr. 

‘Ar ôl cyd-weithio gyda'r cyngor lleol, yr heddlu ac asiantaethau eraill, daethpwyd o hyd i adeilad a oedd yn gallu cael ei ddefnyddio fel canolfan holistaidd. O ganlyniad i’r pandemig, cafodd agoriad yr adeilad ei oedi, ond yn y cyfamser agorwyd ffreutur symudol a oedd yn mynd allan bob dydd i gynnig bwyd i bobl mewn llety dros dro.   

‘Ar Fedi’r 1af, 2021, croesawodd The Haven ei staff ac ar Dachwedd 1af agorodd i’r cyhoedd fel Fresh Expression a Chanolfan Core Recovery ble y gall amrywiol asiantaethau gyd-weithio. Yn ogystal, roedd cyfleusterau cawod, triniaeth feddygol ac ystafell i’w ddefnyddio ar gyfer rhaglenni hyfforddiant. Ychydig fisoedd ar ôl yr agoriad, cafwyd cydnabyddiaeth gan yr Awdurdod Lleol ac Arolygwr Heddlu bod ymddygiad gwrth-gymunedol wedi lleihau a bod mwy o bobl wedi cadw eu cartrefi.’ 

Ail-drefnwyd Byddin yr Iachawdwriaeth yn 2021 a arweiniodd at uno corffluoedd Cymru i ffurfio Adran Cymru newydd. Dathlwyd yr uno trwy gyda digwyddiad agoriad ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd ar Hydref 9fed 2021. Cafodd y digwyddiad ei arwain gan y Cyrnoliaid Paul a Jenine Main. Cafwyd baneri newydd - un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Daeth aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth o bob rhan o Gymru ynghyd er mwyn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mwynhawyd Te Prynhawn hefyd!) 

Yn ystod yr addoliad, roedd cyfle i fyfyrio ar y 40 diwrnod o weddi a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Hydref 2021. Teimlwyd yr Arglwydd yn dweud y geiriau hyn i Gymru:  Fel fy mhobl annwyl, ceisiwch ar fy ôl â'ch holl galon. Byw yn llawen, caru'n hael, bod yn Iesu yn dy gymunedau, a gwylio beth a wnaf.’ 

Gweddi

  • Diolchwch i Dduw am Fresh Expression a Chanolfan Core Recovery Castell Nedd. 
  • Molwch Dduw bod Byddin yr Iachawdwriaeth yn parhau i wasanaethu Cymru a hynny fel un adran. Gweddïwch dros y tîm arwain ar ddechrau, yr hyn obeithiwn i fod, yn 150 o flynyddoedd llwyddiannus arall yn dweud wrth bobl am yr Iesu a chefnogi pobl fregus yng Nghymru.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags