Diwrnod 147: Gweddïo dros y rheini sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd (2020)
Tachwedd 11eg
Diwrnod 147 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Canwch gân o fawl i’r Arglwydd, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach' (Salm 147:7).
2020
Ysgrifenna Donna Sass (Pentre) Gweithiwr Cymorth Cymunedol:
'Ar Chwefror 15fed 2020, cafodd cymoedd De Cymru eu bwrw gan Storm Dennis. Cafodd glaw sylweddol effaith ar sawl cylfat yn ardal Pentre. O ganlyniad, cafodd sawl stryd y tu ôl i Gorfflu Pentre eu heffeithio gan lifogydd yn oriau man y bore ar Chwefror 16eg. Gofynnodd un o’r cynghorwyr lleol, a oedd hefyd yn aelod o gorfflu Pentre, am gymorth gan aelodau’r corfflu ar y prynhawn dydd Sul er mwyn rhoi cymorth i’r rheini a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd. Y prynhawn hwnnw, daeth sawl aelod o’r corfflu ynghyd i wneud brechdanau a llenwi fflasgiau er mwyn gwneud te a choffi. Cerddon nhw i lawr i’r strydoedd a effeithiwyd gan nad oedd gerbydau yn gallu cael i lawr y strydoedd o ganlyniad i’r difrod.
‘Yn y dyddiau canlynol, daeth neuadd y corfflu yn ganolfan ar gyfer rhoddion o ddillad ac eitemau i’r tŷ er mwyn cefnogi’r rheini a gafodd eu heffeithio. Parhaodd aelodau o’r corfflu i ymweld â’r strydoedd gyda mwy o luniaeth yn ogystal â chynnig help gyda’r glanhau. Daeth fwy o lifogydd yr wythnos ganlynol, a daeth cerbyd argyfwng Adran De a Chanolbarth Cymru Byddin yr Iachawdwriaeth i Pentre er mwyn cynorthwyo’r gwasanaethau argyfwng a’r corfflu.’
Gweddi
- Mae byw yng nghymoedd Cymru weithiau yn golygu llifogydd. Gweddïwch, ble bo modd, ein bod ni fel eglwys yn ymateb trwy gynnig cymorth i'r rheini a effeithiwyd gan lifogydd.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.