Diwrnod 146: Gweddïo dros ein gwasanaethau cyflogadwyedd (2019)
Tachwedd 10fed
Diwrnod 146 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Haleliwia! Mola’r Arglwydd, meddwn i wrthof fy hun! Dw i’n mynd i foli’r Arglwydd ar hyd fy mywyd, a chanu mawl i’m Duw tra dw i’n bodoli' (Salm 146:1 a 2).
2019
Cyhoeddwyd llythyr gan yr Uwchgapten Ray Hobbins (Aberystwyth) yn yr Iachawdwriaeth (9 Mawrth 2019):
‘Hoffwn roi fy niolchiadau i fand a chôr Treforys, sy’n rhoi o’u hamser a’u talentau i chwarae a chanu yng nghyntedd yr ysbyty lleol. Dyma dystiolaeth wych sy’n bendithio cleifion ac ymwelwyr yn fawr.
‘Dw i am roi diolch iddynt am fynd y cam ychwanegol yna. Mae fy ngwraig, Eileen, wedi bod yn yr ysbyty am sawl wythnos bellach, sawl milltir oddi cartref, yn cael amryw o driniaethau. Daeth parti bach o gerddorion i’r ward ac aethon nhw i mewn i’w hystafell sengl hi er mwyn chwarae ei hoff emynau. Gweddïon nhw gyda hi hefyd. Rhoddon nhw anogaeth fawr iddi yn ystod yr amser caled hwn. Mae Eileen yn dal i fod yn yr ysbyty.
‘Hoffwn i hefyd ddiolch i swyddogion ymddeol Corfflu Abertawe am eu hymweliadau a’u caredigrwydd.’
Cafodd Declan (nid ei enw go iawn) ei gyfeirio at Paul Laybourn, Cydlynydd Datblygiad Cyflogadwyedd prosiect Employment Plus Byddin yr Iachawdwriaeth yn 2019.
Roedd Declan, a oedd yn 29 mlwydd oed, yn niwroamrywiol ac wedi bod i sawl rhaglen yn y Ganolfan Waith. Roedd gwneud cyswllt llygaid a rhyngweithio â grŵp yn dipyn o her iddo ond trwy’r rhaglenni hynny wedi bod i sawl sefydliad manwerthu prysur.
Fe wnaeth Paul a Declan cwrdd, ac ar ôl asesiad cyflym, pwysleisiwyd iddo mai nod Employment Plus yw rhoi’r unigolyn yn gyntaf a chanlyniad y rhaglen yn ail.. Roedd Paul yn awyddus bod Declan yn deall ei niwroamrywiaeth a’r ffaith ei fod yn rhywbeth i’w ddathlu. Cyfeiriodd felly at sefydliad awtistiaeth arbenigol yn y Rhondda a oedd yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad iddo. Helpon nhw Declan i deimlo’n falch o’i sgiliau a thalentau unigryw a sut y byddai’r sgiliau hyn yn ei helpu i gael swydd.
Wrth ddechrau edrych am gefnogaeth cyflogadwyedd i Declan, roedd yn amlwg bod ei unigrwydd cymdeithasol yn her... Nid oedd Declan wedi bod i Gaerdydd, ac felly un o nodau Paul oedd cwblhau hyfforddiant teithio gydag ef. Dechreuodd y broses trwy dal y trên i Bontypridd ac yna i Gaerdydd. Nod y trip i Gaerdydd oedd dosbarthu ei CV i gyflogwyr a oedd yn cyd-fynd â’i ddiddordebau. Roedd y rhan fwyaf o’i ddiddordebau yn ymwneud â gemau ac animeiddio. Trwy wneud hyn, tyfodd hyder Declan yn ogystal, datblygodd ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
Yn y pendraw, roedd Declan yn hyderus a daeth Paul o hyd i rôl wirfoddol iddo mewn siop elusen leol. Roedd gwneud yr un tasgau drosodd a throsodd megis sortio DVDs a llyfrau yn ôl trefn y wythnos yn ei wneud yn gyfforddus. Ar ôl amser, rhoddodd Paul gymorth i Declan wrth iddo drio am swyddi. Wrth wneud ffug gyfweliadau, roedd Declan wedi gwneud argraff dda ar y cyfwelydd - rhoddon nhw swydd iddo. Yn anffodus roedd y swydd yn rhy bell i ffwrdd a byddai’n rhy gostus iddo deithio yno, ond roedd cael y swydd yn hwb i’w hyder.
Wrth fynd i mewn i bandemig 2020 ac i mewn i’r cyfnod clo, parhaodd y cyfarfodydd wythnosol rhwng Paul a Declan dros Teams. Cafodd cynnig swydd arall, ond gan fod un o aelodau teulu Declan yn hunan ynysu, roedd yn rhaid iddo droi’r swydd honno i lawr hefyd. Cynlluniodd Paul deithiau cerdded i Declan a’i gi i fyny’r mynyddoedd lleol, er mwyn sicrhau ei fod yn cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Doedd Declan ddim yn ymwybodol bod y llwybrau hyn yn bodoli, a datblygodd cariad newydd tuag at y cymoedd.
Cafodd Declan ei gyfeirio gan y Ganolfan Waith i ddechrau cwrs prentis. Roedd ei drawsnewidiad o ran ei hyder personol wedi gwneud argraff dda.
Mae Cydlynydd Rhaglen Uned Gweinyddiaethau Carchardai yn ysgrifennu am y rhaglen Cameo yng ngharchardai Cymru:
Roedd Uned Gweinidogaeth Carchardai Byddin yr Iachawdwriaeth wedi gobeithio sefydlu cymuned Cameo yng ngharchardai Cymru. Daeth hwn yn realiti yn 2019. Cymerodd sbel i sefydlu lleoliad addas, amserlen gweithgareddau ac i ddod i adnabod y ffordd o fyw yn y carchar. Cafodd carcharorion dros oed ymddeol, 65 mlwydd oed a’r rheini nad oedd yn gallu gweithio, wahoddiad i sesiynau Cameo yn ystod yr wythnos.
Mae Cameo yn lle diogel a chroesawgar i garcharorion ddod bob dydd. Dros y pedair blynedd diwethaf mae’r cynllun wedi datblygu ac mae’r carcharorion yn ymfalchïo yn y lleoliad Cameo a’r gweithgareddau y maen nhw’n eu gwneud. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys pob math; jig-so, gemau, celf a chrefft, coginio, phrosiectau tymhorol a bowlio a chyrlio pan fydd y tywydd yn dda.
Weithiau mae’n gallu bod yn anodd gweld datblygiad o ddydd i ddydd ac mae’n hawdd iawn mynd ynghlwm ym mywyd y carchar a phrofiadau’r carcharorion. Mae newid yn gallu bod yn anodd. Serch hynny, mae’n bwysig ffocysu ar y perthnasau cryf a bugeiliol gyda’r dynion sy’n dod i Cameo. Yn aml, bydden nhw’n myfyrio ar yr amgylchfyd croesawgar a saff y mae Cameo yn ei gynnig heb feirniadu a disgwyliadau.
Gweddi
- Gweddïwch y bydd gwaith amyneddgar a phwrpasol Employment Plus yn parhau i fod o fudd. Gweddïwch y bydd y rhai sy’n ymgysylltu â’r rhaglen yn cael canlyniadau positif.
- Gweddïwch dros y cymunedau Cameo sy’n ceisio helpu carcharorion hŷn. Gweddïwch y byddai’r nod i ehangu’r gwaith yn cael eu hateb.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.