Diwrnod 145: Gweddïo dros Tŷ Dewr, Wrecsam a Housing First, Merthyr Tudful (2018)

Tachwedd 9fed

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 145 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti’n eu gwneud, a bydda i’n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion' (Salm 145:6).

2018

Adroddodd y Salvationist (24 Mawrth 2018) ar ymweliad AS lleol â Thŷ Dewr, Wrecsam:

‘Canmolodd Ian Lucas, Aelod Seneddol San Steffan, y prosiect a oedd yn darparu llety a chymorth i gyn-filwyr. Mae prosiect Byddin yr Iachawdwriaeth yn Nhŷ Dewr yn cynnig llety i 12 cyn-filwr sydd ar fin wynebu digartrefedd. Dywedodd Mr. Lucas, “Roedd gan Fyddin yr Iachawdwriaeth gysylltiadau cryf gyda Wrecsam eisoes. Yn ystod fy ymweliad, siaradon ni am y gwaith penodol sy’n cael ei wneud yma gyda chyn-filwyr yn ogystal â chefnogi eraill i gael llety.”

‘Cred Byddin yr Iachawdwriaeth fod cynnig gwely yn unig ddim yn ddatrysiad i ddigartrefedd. Mae gan y cyn-filwyr yn Nhŷ Dewr, fynediad at weithgareddau gan gynnwys tyfu bwyd yn y rhandir, cymryd rhan mewn gwersi coginio a mynd i sesiynau ffitrwydd. Y ffocws yw sgiliau bywyd wrth symud yn ôl mewn i fywyd sifiliad.

‘Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Gill Corps, “Rydym wedi bod yn rhedeg gweithgaredd Tŷ Dewr am wyth mis. Rydym yn gweithio ag unigolion er mwyn eu cefnogi, ac felly, rydym wedi gweld sawl canlyniad anhygoel.”’ 

Yn 2018, llwyddodd Byddin yr Iachawdwriaeth i ennill cytundeb i redeg gwasanaeth Housing First ym Merthyr Tudful. Rydym bellach yn cefnogi 8 o bobl oedd eisoes wedi bod yn cysgu ar y strydoedd yn eu cartrefi eu hunain. Mae cymuned Merthyr Tudful yn un clos ac felly mae wedi bod yn daith i ddod i ddeall y gymuned hon er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid yn llwyddo. Gydag amser a dyfalbarhad, llwyddon ni i gynnig gwasanaeth a oedd yn cynnig datrysiad addas i bobl ddigartref yn y gymuned.

Mae aelodau Corfflu Merthyr Tudful wedi bod yn hynod groesawgar, gan sicrhau cymorth ychwanegol trwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig adeg y Nadolig, Pasg a’r Cynhaeaf. Mae Corfflu Merthyr Tudful hefyd wedi cefnogi cleientiaid Housing First trwy eu croesawu i foreau coffi gan sicrhau eu bod mewn lle cynnes. Mae Cadet Paul Sass hefyd wedi bod yn gwneud gwaith Caplan i gefnogi staff a chleientiaid y prosiect yn uniongyrchol. 

Gweddi

  • Mae Tŷ Dewr mewn sefyllfa unigryw i allu cefnogi cyn-filwyr. Gweddïwch dros y cyn-filwyr sy’n rhan o'r prosiect gan ofyn i Dduw am ganlyniadau positif yn eu bywydau o ganlyniad i’r prosiect.
  • Mae Housing First ym Merthyr Tudful yn cefnogi pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd yn ôl i mewn i’r gymdeithas. Gweddïwch dros y gefnogaeth y maen nhw’n darparu i’r bobl fregus hyn.

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags