Diwrnod 144: Gweddïo dros Tŷ Crichton (2017)
Tachwedd 8fed
Diwrnod 144 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Bendith ar yr Arglwydd, fy nghraig i! Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i frwydro' (Salm 144:1).
2017
Cyn 2017, roedd gwasanaeth estyn allan Tŷ Crichton yng Nghaerdydd wedi’i rannu’n dri gwasanaeth llai: (1) Cymorth Symudol – Roedd y gwasanaeth hwn yn cynorthwyo oedolion a theuluoedd yn eu cartrefi a oedd ar fin wynebu digartrefedd; (2) Prosiect y Bws - Roedd y gwasanaeth hwn yn gyrru i leoliad penodol bob nos i gefnogi pobl a oedd ar y strydoedd. Roedden nhw’n darparu bwyd a chyngor ac yn gallu eu cyfeirio at lety argyfwng; (3) Gateway – Roedd y gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl a oedd yn cysgu ar y strydoedd a oedd yn dod o du allan i Awdurdod Lleol Caerdydd. Yn aml byddai’r bobl hyn yn ffoi rhag trais.
Yn 2017, roedd y tîm Cymorth Symudol yn hapus iawn o fod wedi ennill cytundeb 7 mlynedd i barhau i gefnogi ac ymestyn y gwaith gan gynyddu’r niferoedd roedden nhw’n gallu cefnogi. Ychydig ar ôl derbyn y cytundeb, roedd Tŷ Crichton hefyd yn gartref i Dîm ‘Housing First’. Mae’r tîm hwn yn cefnogi pobl sy’n cysgu ar y strydoedd i gael cartref eu hunain trwy ddarparu cefnogaeth gydol oes. Dechreuodd y gwaith yn Nhŷ Crichton gyda naw aelod o staff, erbyn heddiw, mae 30 aelod o staff. Mae pob aelod o staff yn gweithio allan yn y gymuned yn cynnig cymorth estyn allan i dros 2,000 o bobl y flwyddyn.
Agorodd Carchar Berwyn yn Wrecsam yn 2017. Dyma’r unig garchar yng Ngogledd Cymru. Mae’n gallu dal 2,000 o ddynion ac ar y pryd, dyma oedd ail garchar mwyaf yn Ewrop. Cynigodd Uned Gweinidogaeth Carchardai Byddin yr Iachawdwriaeth i fod yn rhan o’r tîm Caplaniaid yno ac felly ers Chwefror 2018, mae Caplan Byddin yr Iachawdwriaeth wedi bod yn bresennol. Mae’r gwaith yn amrywiol gyda thua 300 o ddynion yn mynychu’r amrywiol gwasanaethau ac astudiaethau. Maent hefyd yn cysylltu gyda’r rheini sy’n wynebu profedigaeth neu sy’n delio â theimladau o hunanladdiad/niweidio. Mae cymorth bugeiliol yn cael ei gynnig, ni waeth beth am grefydd a ffydd yr unigolyn.
Mae’r Caplan wedi cael y fraint o ddarparu cyrsiau Alpha a Living with Loss yn ogystal ag arwain rhai o wasanaethau’r Sul. Mae’r Caplan hefyd wedi cyd-weithio â’r corfflu lleol a’r hostel i gyn-filwyr a theithio ar daith bywyd gyda’r dynion hyn yn ystod cyfnodau anoddach bywyd. Mae Caplaniaeth yn dod â gobaith, arweiniad ac anogaeth gan helpu’r dynion i gysylltu neu ailgysylltu gyda ffydd gan ofyn cwestiynau mwyaf bywyd.
Gweddi
- Gweddïwch dros waith estyn allan Tŷ Crichton wrth iddynt gefnogi oedolion a theuluoedd bregus.
- Gweddïwch dros y staff sy’n gweithio yn yr amgylchfyd heriol hwn.
- Gweddïwch dros y gefnogaeth y maen nhw’n eu rhoi i bobl sy’n cysgu ar y strydoedd wrth iddynt symud i gartref ei hunain.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.