Diwrnod 143: Gweddïo dros Benarth (2016)
Tachwedd 7fed
Diwrnod 143 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau, achos Ti ydy fy Nuw i. Boed i dy Ysbryd hael di fy arwain i rywle saff' (Salm 143:10).
2016
Roedd gan y Salvationist (24 Medi 2016) broffil o Gadetiaid Roelof a Tanyia Vermeulen, a oedd ar fin mynd i Goleg William Booth (CLlC) o Gorfflu Penarth:
‘Daw Roelof a Tanyia yn wreiddiol o Dde Affrica ond bellach wedi byw yng Nghymru am y naw mlynedd diwethaf gyda’i meibion Allan a Gareth. Yn 2004, gwnaethon nhw’r penderfyniad i fod yn aelodau ymlynwyr yng nghorfflu Krugersorp (Adran De Affrica) ond ar ôl iddynt symud i’r Deyrnas Unedig yn 2007, penderfynon nhw i fod yn filwyr yng nghorfflu Penarth. Yma, cawson nhw gefnogaeth a chymorth i ddatblygu eu bywydau ysbrydol.
‘Roedd Roelof wedi teimlo galwad gan Dduw o’r blaen ond yn ystod gwrs ‘Design for Life’ yn 2015, atebodd yr alwad gyda’i wraig Tanyia, a oedd yn gweithio fel Rheolwr Datblygiad Cymunedol yn Nwyrain Caerdydd. Roedd y ddau yn teimlo bod addysg ac amgylchfyd Coleg William Booth yn hanfodol i helpu iechyd ysbrydol a thyfu’n agosach at Dduw. Roedd datblygu defosiwn i Dduw wedi’u harfogi ar gyfer eu gweinidogaeth yn y dyfodol.’
Gweddi
- Gweddïwch dros gorfflu Penarth, yn enwedig wrth iddynt fod yn rhan o daith milwyr yn dod yn swyddogion. Ydy'ch lleoliad chi wedi bod yn rhan o daith unigolyn i fod yn swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth?
- Dathlwch y seiliau cadarn y mae corffluoedd yn eu darparu wrth i bobl fynd i fod yn arweinwyr ym Myddin yr Iachawdwriaeth.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.