Diwrnod 142: Gweddïo dros waith Byddin yr Iachawdwriaeth Ryngwladol (2015)
Tachwedd 6ed
Diwrnod 142 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Dw i’n gweiddi arnat ti, Arglwydd; a dweud, "Ti ydy’r unig le saff i mi fynd, does gen i neb arall ar dir y byw!"' (Salm 142:5).
2015
Cofnododd llyfr hanes Corfflu Cwm ymweliad Côr Rhyngwladol Staff Byddin yr Iachawdwriaeth â’r corfflu ar 14 a 15 Chwefror 2015:
‘Roedd ymweliad Côr Rhyngwladol y Staff i Gwm yn torri tir newydd. Cafodd yr ymweliad ei rannu gyda chorfflu cyfagos Abertyleri hefyd. Roedd Côr Rhyngwladol y Staff yn awyddus i ymestyn eu cenhadaeth i gorffluoedd llai.
‘Ychydig o ddyddiau cyn i’r côr ymweld, daeth aelodau o’r ddau gorfflu ynghyd i weddïo gan ddatgan ‘...dros fynyddoedd a chymoedd, sŵn cyflenwad o law.’ Cafodd y weddi ei hateb yn anhygoel - nid yn llythrennol, diolch byth - ond yn ysbrydol. Daeth gymaint o fendithion dros y pum cant o bobl a ddaeth i’r digwyddiadau amrywiol dros y penwythnos hwnnw.
‘Cafodd eglwys fawreddog Christchurch yng Nglynebwy ei llenwi i’r ymylon ar gyfer Gŵyl Mawl y nos Sadwrn. Roedd y perfformiad o ‘Introit’ a ddaw o Salm 24 yn berffaith. Roedd dathliad olaf y penwythnos ar y prynhawn Sul yn Abertyleri yn ddathliad hyfryd i orffen y penwythnos. Rhoi’r clod i Dduw oedd y thema a’r nod. Roedd y penwythnos yn gyfle i’r côr ddangos eu talentau cerddorol a’u gallu i ddewis rhaglen sensitif a oedd yn cynnwys popeth o’r modern i’r hen ffefrynnau. Er enghraifft; ‘Grant us Thy Peace’ a ‘Remember Me’. Daeth yr unawdau gan Rachel Gray, Rob Moyw, Gemma Hinchliffe a Richard Phillips â llawenydd a bendithion i bawb oedd yn bresennol.
‘Ar gyfer gwasanaethau’r bore Sul rhannwyd y côr yn ddau gyda hanner yn arwain yr addoliad yng Nghwm a’r hanner arall yn arwain yr addoliad draw yn Abertyleri. Yn Abertyleri, heriodd yr Is-gyrnol George Pilkington y gynulleidfa i ddysgu gan ymateb diymdroi Mathew i alwad Iesu. Yng Nghwm, atgoffodd aelod o'r côr, Cliff Matthews, y gynulleidfa i fynd â’u holl bryderon at draed Iesu.
‘Roedd arweinyddiaeth y gantores Dorothy Nancekievill yn anhygoel trwy gydol y penwythnos nid yn unig o ran ei gallu a’u harweinyddiaeth gerddorol ond y ffordd iddi greu perthnasoedd â’r rheini yn y cynulleidfaoedd. Daeth yr Is-gyrnol Pilkington â digon o hiwmor i’r holl ddathliadau hefyd.
‘Roedd adrannau cerddorol Abertyleri a Chwm hefyd yn rhan o’r digwyddiadau, trwy ymuno ar y prynhawn Sul. Chwaraeodd y band unedig ‘Land of Song’ tra bod y côr wedi canu ‘Under His Wings.’ Roedd cael ymuno â Chôr Rhyngwladol y Staff i ganu ‘Singing in the Heavenly Choir’ yn uchafbwynt i nifer.
‘Roedd y disgwyl am y digwyddiad yn hir a gweddïwyd yn galed dros y penwythnos. Roedd yn fendith i aelodau’r corffluoedd cartref am sbel ar ôl ac roeddent mor ddiolchgar i Gôr Rhyngwladol y Staff am eu parodrwydd i ddod â’i genhadaeth i gorffluoedd llai Byddin yr Iachawdwriaeth.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am yr anogaeth a ddaw i gorffluoedd llai a’u cymunedau trwy genhadaeth Côr neu Fand Rhyngwladol y Staff Byddin yr Iachawdwriaeth.
- Molwch Dduw ein bod yn Fyddin yr Iachawdwriaeth ryngwladol, a bod y cysylltiadau ehangach hynny yn ein huno.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.