Diwrnod 141: Gweddïo dros Wyliau Cenedlaethol Cymru Eisteddfod, Sioe Frenhinol (2014)
Tachwedd 5ed

Diwrnod 141 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth, a’m dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr' (Salm 141:2).
2014
Adroddodd y Salvationist (23 Awst 2014) ar waith y Fyddin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fel rhan o ddathliadau 140 mlynedd o wasanaeth yng Nghymru:
‘Ymunodd Byddin yr Iachawdwriaeth yn nathliadau’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma ŵyl wythnos o hyd sy’n dathlu diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.
‘Cafwyd arddangosfa yn cofio gwaith y corfflu cyntaf yng Nghaerdydd gan symud trwy amser i ddathlu’r cynnydd ers hynny.
‘Dywedodd Arweinydd yr Adran, yr Uwchgapten Derek Jones, “Rydym wrth ein boddau yn cael bod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n gyfle gwych i ddathlu ein gwaith yma yng Nghymru.”
‘Dywedodd Swyddog y Gymraeg ac Estyn Allan y Parch. Roger Thomas bod presenoldeb Byddin yr Iachawdwriaeth yn y digwyddiad yn dyst bod Byddin yr Iachawdwriaeth wrth wraidd diwylliant Cymreig.’
Gweddi
- Dathlwch y blynyddoedd hynny pan roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn bresennol yn y digwyddiadau cenedlaethol hyn.
- Gweddïwch y bydden ni fel eglwys yn parhau i fachu ar y cyfleoedd i fod yn bresennol yn y digwyddiadau hyn sy’n dathlu bywyd Cymreig.
Discover more

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.