Diwrnod 140: Gweddïo dros gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan drychinebau pyllau glo a chau’r pyllau glo (2013)

Tachwedd 4ydd

Header image for Wales 150 in Welsh

Diwrnod 140 o 150 Diwrnod o Weddi.

  • 'O Arglwydd, Meistr, ti ydy’r un cryf sy’n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr' (Salm 140:7).

2013

Roedd y Salvationist (Tachwedd 2il 2013) yn cynnwys llythyr oddi wrth Kathryn Stowers (Merthyr Tudful):

‘Cefais fy magu mewn cymuned lofaol, a dw i’n dal i fyw mewn cymuned lofaol, ddim yn bell iawn o Senghennydd. Cofiwyd canmlwyddiant trychineb pwll glo gwaethaf y Deyrnas Unedig ar Hydref 14eg.

‘Taniodd gwreichionen y nwyon dan ddaear ym mhwll glo Universal yn Senghennydd. Bu farw 439 o lowyr a 1 achubwr.

‘Gweithiais fel swyddog cyfathrebu Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit am 11 o flynyddoedd ac roedd diddordeb arbennig gen i yn y ffordd sensitif aethpwyd ati i gofio’r trychineb.

‘Ar wefan y BBC, cyhoeddwyd cyfres o luniau a oedd yn rhan o gasgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol. Aeth ffotograffydd proffesiynol i Senghennydd o fewn oriau o’r trychineb gan gofnodi’r dinistr y trychineb. Mae’r llun olaf ar y wefan yn dangos angladd y Siarsiant E. Gilbert gyda’r pennawd “Salvationist pitman’s coffin”. Rwy’n gwybod bod yna neuadd goffa yn Senghennydd, ond dw erioed wedi edrych arno’n agos iawn. Efallai bod rhai darllenwyr yn gwybod mwy.’

Gweddi

  • Dyma atgof teimladwy o’r holl drychinebau pyllau glo a ddigwyddodd yng Nghymru. Mae teuluoedd yn dal i sôn am eu perthnasau a ffrindiau a gafodd eu heffeithio gan y fath drychinebau. 
  • Gweddïwch heddiw dros y cymunedau sy’n dal i gael eu heffeithio gan y digwyddiadau hyn yn eu hanes, gan fod dylanwad y digwyddiadau yn dal i effeithio ar bobl. 

Discover more

Daily prayers to inform, encourage and immerse the territory in prayer.

The Salvation Army celebrates 150 years in Wales.

Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.

Learn more about our vision and mission priorities.

Related tags