Diwrnod 14: Trawsnewid bywydau pobl (1887)
1af o Orffennaf
![Header image for Wales 150 in Welsh](/sites/salvationists/files/styles/max_display_size/public/images/2024-06/Dyma%20Gariad%20Welsh.png?itok=qVZLN1tH)
Diwrnod 14 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Dim ond ffŵl sy’n meddwl wrtho’i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli”’ (Salm 14:1).
1887
Roedd gan y milwyr cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd-orllewin Cymru gymaint o frwdfrydedd, crëwyd War Cry cyfrwng Cymraeg o’r enw Y Gad Lef yn 1887.
‘Mae bellach gennym dri chorfflu cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Cymru. Rydym yn dechrau gweld cysylltiadau rhyngddynt a phoblogaeth Cymru yn gyffredinol, golygfeydd y byddem yn eu dymuno.’
(War Cry Mawrth 26ain, 1887)
![A pencil drawing of a Salvation Army meeting in a large auditorium in 1886](/sites/salvationists/files/styles/max_display_size/public/images/2024-06/Presentation%20of%20the%20colours%2C%20Caernarfon1886.jpg?itok=w-J9z_ML)
‘Y Sulgwyn Yn Ffestiniog
‘Am olygfeydd gwych dydd Sul diwethaf.
‘Bydd nos Sul Mawrth 13eg yn noson fythgofiadwy yn hanes yr ail Gorfflu Cymraeg Byddin yr Iachawdwriaeth ac yn noson fythgofiadwy i bawb oedd yno.
‘Mae miloedd o feddwon wedi cael eu hachub ac mae’r cymoedd yn canu am eu hiachawdwriaeth. Ond mae’r her yn parhau o orfod defnyddio iaith sy’n estron i nifer o helaeth...ac at bwrpas crefydd, mae’n well gan bobl clywed eu hiaith hyfryd farddonol nhw.’
(War Cry Mawrth 26ain, 1887)
Gweddi
- Gweddïwch am drawsnewidiadau parhaus ym mywydau pobl gan rym yr Ysbryd Glân.
Discover more
![](/sites/salvationists/files/styles/card/public/images/2024-01/Wales%20150.png?h=95acc9fd&itok=pnSro7OK)
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.