Diwrnod 138: Gweddïo dros fywydau ysbrydol pobl Cymru a’r DU (2011)
Tachwedd 2il
Diwrnod 138 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Bydd yr Arglwydd yn talu’n ôl ar fy rhan i! O Arglwydd, mae dy haelioni yn ddiddiwedd! Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo!' (Salm 138:8).
2011
Pob deng mlynedd yn y Deyrnas Unedig, cynhelir cyfrifiad. Dechreuodd yn 1801. Ar sail canlyniadau cyfrifiad 2011 a 2021, dyma ambell sylw pryderus.
‘Mae’r nifer o bobl sy’n adnabod ei hunain fel Cristnogion wedi gostwng rhyw 5.5 miliwn dros y ddegawd ddiwethaf. Mae crefyddau eraill wedi gweld cynnydd yn eu niferoedd. Mae bron pob awdurdod lleol wedi cydnabod bod cynnydd yn y niferoedd sy’n nodi nad oes ganddynt grefydd, gyda mwy na hanner y boblogaeth mewn 10 awdurdod yn nodi hyn.’
‘Er yn fach - nododd 0.6% o boblogaeth Lloegr a Chymru eu bod yn credu mewn ‘ffydd arall’ (crefydd nad yw’n Gristnogaeth, Iddewiaeth, Bwdhaeth, Hindŵaeth, Islam a Sikh). Dyma gynnydd o fwy na 100,000 yn y ddegawd ddiwethaf. Y fwyaf poblogaidd yn y categori hwn yw paganiaeth gyda bron i 74,000 yn ei ddilyn, gan gynnwys 1 ym mhob 1,000 trigolyn yng Ngheredigion, Cernyw, Gwlad yr Haf, Ynys Wyth, Powys a Gwynedd.’
(Ffynhonnell: The Guardian)
Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Parchedig Gregory Cameron: ‘Rydym yn gymdeithas sy’n fwy agored ac onest am grefydd. Mae disgwyliadau’r gymuned yn seciwlar mewn gwirionedd yn hytrach nag yn grefyddol. Wrth ddatgan ffydd, rydych yn sefyll mas. Nid yw’r niferoedd hyn yn syndod ond maent yn atgoffa’r eglwys o’r her sy’n ei hwynebu.’
Rydym bellach yn fyd, i ryw raddau, sy’n adlewyrchu byd yr Eglwys Gristnogol gynnar.
Gweddi
- Wrth i chi ystyried yr ystadegau hyn mewn mwy o fanylder, y gwirionedd yw eich bod yn y lleiafrif wrth fod yn Gristion yng Nghymru. Mae’n bwysicach fyth i wybod a deall beth a olygir i fod yn ‘halen a goleuni’ yn y genhedlaeth hon.
- Gweddïwch y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan yr Ysbryd Glân ac y byddwch chi’n dweud wrth rywun beth mae bod yn Gristion yn ei olygu i chi. Peidiwch â chuddio eich goleuni, gadewch iddo dywynnu.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.