Diwrnod 137: Gweddïo dros Gaerfyrddin (2010)
Tachwedd 1af
Diwrnod 137 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Wrth afon Babilon, dyma ni’n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion' (Salm 137:1).
2010
Fel rhan o waith estyn allan Corfflu Rhydaman, dechreuwyd y gwaith yng Nghaerfyrddin yn 1997 gan yr Uwchgapteniaid Martyn a Denise Clements. Cafodd ei gydnabod fel corfflu swyddogol yn 2000. Yn 2010, dathlwyd croesawu 4 ymlynwr a 6 milwr ifanc. Mae’r stori yn parhau i gael ei hysgrifennu yn 2024 fel yr ysgrifenna swyddog y corfflu, yr Is-gapten Jamie Jones:
‘Ers y pandemig, mae Duw yn wir wedi bod yn gweithio yng Nghorfflu Caerfyrddin. Yn yr eglwys, y gymuned, y siop elusen a’r siop goffi rydym wedi’n bendithio’n llwyr wrth weld ein gwasanaethau addoli ar ddydd Sul yn cynyddu i gyfartaledd o 30 o bobl bob wythnos. Ar ôl inni fod yn gweddïo am sawl blwyddyn, rhoddodd Dduw inni grŵp addoli ac arweinydd, teuluoedd Cristnogol cryf llawn cariad sydd yn barod i garu, i fyw ac i wasanaethu yma yng nghymuned Caerfyrddin.
‘Eleni hefyd, mae’r criw cyntaf o barristas wedi eu cymhwyso ar ein cynllun hyfforddiant newydd a gafodd ei ddylunio i bontio’r bwlch rhwng diweithdra a gwaith. Trwy ymgysylltu gyda’r Ganolfan Gwaith a chynllun Employment Plus, rydym wedi gallu cynnig cymorth i bobl sy’n edrych i ddatblygu sgiliau newydd.
Wrth inni barhau i wrando ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud wrthym, rydym yn edtrych ymlaen at weld sut y bydd Duw yn arwain cenhadaeth y corfflu yn y dyfodol.
Gweddi
- Molwch Dduw am yr holl waith y mae wedi ei wneud trwy fywydau'r rheini sydd wedi ymrwymo i ddatblygu’r gymuned Gristnogol yng Nghaerfyrddin.
- Gweddïwch dros y grŵp addoli wrth iddynt annog mawl i Dduw pan fyddent yn cwrdd i glywed gair Duw.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.