Diwrnod 136: Diolch am arweinwyr lleol a gwirfoddolwyr (2009)
Hydref 31ain
Diwrnod 136 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
'Rhowch ddiolch i’r Duw sy’n y nefoedd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! ' (Salm 136:26).
2009
Cafwyd teyrnged i’r canwr Gwyn Thomas, Abertawe yn Salvationist (21 Mawrth 2009)
‘Roedd Gwyn yn storïwr. Ei hoff stori i’w hadrodd oedd stori ei daith gyda Duw. Roedd ei stori yn adlewyrchu ffydd. Fel gŵr gweddw cafodd ei gyflwyno i Fyddin yr Iachawdwriaeth gan Glenys. Priododd y ddau yn hwyrach.
‘Ar ôl dod yn filwr ym Myddin yr Iachawdwriaeth, roedd yn rhan annatod o raglen y corfflu, gan ddefnyddio ei ddoniau fel siarsiant groeso, yn y clwb cinio, Cylch Cyfeillgarwch, y siop elusen, y côr ac yn dosbarthu cawl. Roedd Gwyn yn anogwr.’
Wythnos yn ddiweddarach adroddodd Salvationist ar gyngerdd codi arian yng Nghorfflu Wrecsam:
‘Cynhaliwyd cyngerdd elusen yn eglwys St Giles i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Yn rhan o’r gyngerdd roedd Charlie Green (unawdydd, Droitwich), Ysgol Iau Parc Acton, Côr Coleg Iâl a band a chôr Byddin yr Iachawdwriaeth. Casglwyd £750 a rannwyd yr arian rhwng Bugeiliaid y Stryd a Chanolfan Gymunedol Arch a berthynai i’r corfflu.’
Gweddi
- Pwy ydych chi’n eu hadnabod sy’n anogwyr? Gweddïwch drostynt.
- Gweddïwch dros yr holl wirfoddolwyr ac arweinwyr lleol rydych chi’n eu hadnabod. Os oes enwau penodol yn sefyll allan, gweddïwch drostynt yn nawr.
Discover more
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.